Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

FAQ Prydau Ysgol am Ddim

Mae prydau ysgol am ddim ar gael i ddisgyblion cymwys sy'n mynychu'r ysgol yn llawn amser. Mae hyn yn cynnwys:

  • Plant iau sy'n mynychu dosbarth meithrin am ddiwrnodau llawn
  • Disgyblion ysgol chweched dosbarth

Mae'n bosibl y gall eich plentyn gael prydau ysgol am ddim os ydych yn cael unrhyw un o'r canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag Incwm
  • Cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Elfen gwarant Credyd Pensiwn
  • Credyd Treth Plant (ar yr amod nad oes gennych hawl i gael Credyd Treth Gwaith hefyd ac nad yw eich incwm gros blynyddol yn fwy nag £16,190)
  • Credyd Treth Gwaith am gyfnod ychwanegol – a delir am bedair wythnos pan nad ydych yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith mwyach
  • o 1 Ebrill 2019, Credyd Cynhwysol – ar yr amod nad yw incwm net blynyddol eich cartref yn fwy na £7,400 (fel yr aseswyd yn ôl enillion o hyd at dri o'ch cyfnodau asesu mwyaf diweddar)

Os yw eich plant yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag Incwm, Cymorth Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm eu hunain, mae'n bosibl y gallent gael prydau ysgol am ddim hefyd.

Er mwyn i blant/pobl ifanc fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim:

  • rhaid i chi, fel rhiant, neu'ch plentyn, gael y budd-dal neu'r taliad cymorth perthnasol
  • dylech fod wedi cyflwyno cais am brydau ysgol am ddim i'r awdurdod lleol (neu dylai rhywun fod wedi cyflwyno cais ar eich rhan)
  • dylai'r awdurdod lleol fod wedi cymeradwyo'r cais, neu dylai'r awdurdod lleol fod wedi gweld dogfennau sy'n dangos yn bendant bod eich plentyn yn gymwys.

Nid yw prydau ysgol am ddim ar gael i fyfyrwyr mewn colegau addysg bellach.

Gallech chi neu'ch plentyn gysylltu â Swyddog Cymorth i Fyfyrwyr y coleg i ofyn a oes unrhyw gymorth ar gael i dalu cost prydau bwyd.

Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar awdurdodau lleol i ddarparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion cymwys sy'n mynychu ysgolion a gynhelir yn unig. Mae hyn yn golygu na allwch hawlio prydau ysgol am ddim ar gyfer eich plentyn os yw'n ddisgybl mewn ysgol breifat neu annibynnol.

Caiff ysgolion annibynnol yng Nghymru eu rhedeg gan gwmnïau annibynnol neu elusennau. Os yw eich plentyn wedi cael ysgoloriaeth neu fwrsari, dylech gadarnhau p'un a yw'r arian hwn yn cynnwys dyraniad am brydau ysgol am ddim.

Os nad yw'n cynnwys dyraniad o'r fath, yna bydd angen i chi ganfod p'un a oes cymorth ariannol pellach ar gael drwy gysylltu â'r corff a ddyfarnodd ysgoloriaeth eich plentyn, neu drwy gysylltu â'r ysgol yn uniongyrchol.

Nac oes. Ni ellir cofrestru disgybl fel disgybl sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac ni ellir dyfarnu prydau ysgol am ddim yn awtomatig heb i gais gael ei wneud gan neu ar ran y rhiant neu'r disgybl. (Fel arfer, byddai rhywun sy'n gweithredu ar ran y rhiant neu'r disgybl yn berthynas neu'n ffrind, neu'n rhywun sy'n gweithio ar eu rhan er mwyn eu helpu i gael yr holl fudd-daliadau y gall fod ganddynt hawl i'w cael, er enghraifft, cynrychiolydd o'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth).

Mae'r Adran Addysg yn Lloegr wedi datblygu system gwirio cymhwysedd ar-lein sy'n golygu bod modd gwirio bod rhywun yn gymwys gan ddefnyddio ei ddyddiad geni a'i rif yswiriant gwladol. I rieni sy'n cael cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999, defnyddir rhif y Gwasanaeth Cynnal Cenedlaethol i Geiswyr Lloches i gadarnhau cymhwysedd. Mae Llywodraeth Cymru yn talu i awdurdodau lleol yng Nghymru ddefnyddio'r system hon.

Gellir defnyddio'r system hon yn llwyddiannus yn y rhan fwyaf o achosion. Lle y gellir ei defnyddio, nid oes angen i rieni gyflwyno prawf o'u hawl i gael budd-dal na phrawf o'u henillion.

Lle na ellir defnyddio'r system, efallai y gofynnir i chi ddangos prawf o'r budd-dal rydych yn ei gael a/neu'ch enillion.

Ar 1 Ebrill 2019, cyflwynodd Llywodraeth Cymru reolau newydd ar gyfer hawlio prydau ysgol am ddim. Oherwydd hyn, gallai nifer gymharol fach o blant a phobl ifanc fod wedi colli eu cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim. Cyflwynwyd “amddiffyniad wrth bontio” er mwyn sicrhau bod y plant a'r bobl ifanc hyn yn parhau i gael prydau ysgol am ddim am gyfnod cyfyngedig o amser.

Gellir crynhoi amddiffyniad wrth bontio fel a ganlyn:

  • Bydd unrhyw blentyn neu berson ifanc a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar 1 Ebrill 2019, pan gyflwynwyd y rheolau newydd, yn parhau i fod yn gymwys tan 31 Rhagfyr 2023, hyd yn oed os bydd ei amgylchiadau'n newid gan olygu na fyddai'n gymwys mwyach fel arall.
  • Bydd unrhyw blentyn neu berson ifanc a ddaw'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim rhwng 1 Ebrill 2019, pan gyflwynwyd y rheolau newydd, a 31 Rhagfyr 2023, yn parhau i fod yn gymwys tan 31 Rhagfyr 2023, hyd yn oed os bydd ei amgylchiadau'n newid gan olygu na fyddai'n gymwys mwyach fel arall.
  • Bydd unrhyw blentyn neu berson ifanc sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar 31 Rhagfyr 2023 yn parhau i fod yn gymwys tan ddiwedd ei gyfnod presennol yn yr ysgol (h.y. nes bydd yn gorffen y cyfnod y mae ynddo ar 31 Rhagfyr 2023, boed yn addysg gynradd neu'n addysg uwchradd). Mae hyn yn gymwys hyd yn oed os bydd ei amgylchiadau'n newid gan olygu na fyddai'n gymwys mwyach fel arall.
  • Ni chaiff amddiffyniad wrth bontio ei ymestyn i hawlwyr nad ydynt yn cael Credyd Cynhwysol na hen fudd-daliadau ac na fydd y newid yn y meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim yn effeithio arnynt felly.

Mae'n debygol mai'r rheswm dros hyn yw bod un o'ch plant yn destun “amddiffyniad wrth bontio” (gweler yr adran flaenorol ynghylch “amddiffyniad wrth bontio”) ond nad yw hyn yn wir am y plentyn arall.

I'r plentyn neu'r person ifanc y mae amddiffyniad wrth bontio yn gymwys, yn hytrach na'r teulu. Mae'n bosibl y bydd rhai plant mewn teulu yn gallu cael prydau ysgol am ddim oherwydd amddiffyniad wrth bontio ac na fydd plant eraill yn yr un teulu yn gallu eu cael.

Nid oes gan deuluoedd sy'n cael Credyd Treth Gwaith hawl i gael prydau ysgol am ddim. Fodd bynnag, byddai gan deuluoedd sy'n cael Credyd Treth Gwaith am gyfnod ychwanegol – a delir am bedair wythnos pan na fydd hawlydd yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith mwyach – hawl i gael prydau ysgol am ddim cyn belled â'u bod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd sy'n weddill.

Os ydych yn gweithio a hefyd yn cael Credyd Cynhwysol, a'ch bod am hawlio prydau ysgol am ddim i'ch plentyn/plant, efallai na fyddwch yn gwybod p'un a yw eich enillion yn fwy na £7,400 y flwyddyn. Pan fyddwch yn hawlio prydau ysgol am ddim, bydd eich awdurdod lleol yn cadarnhau eich bod yn gymwys gan ddefnyddio'r system gwirio cymhwysedd. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y system gwirio cymhwysedd yn gweithio allan a yw eich enillion islaw £7,400 y flwyddyn a ph'un a ydych yn gymwys i hawlio prydau ysgol am ddim i'ch plentyn/plant.

Mewn achosion eraill, bydd angen i'r awdurdod lleol ofyn i chi gyflwyno prawf o'ch enillion a bydd yn gweithio allan a yw eich enillion yn fwy na £7,400 y flwyddyn neu £616.77 y mis (h.y. £7,400 wedi'i rannu â 12). Os yw eich enillion yn rhy uchel, ni fyddwch yn gallu hawlio prydau ysgol am ddim ar gyfer eich plentyn/plant (er y gallwch wneud cais eto os bydd eich enillion yn lleihau).

Mae'r trothwy o £7,400 yn gysylltiedig ag incwm net, sef incwm y cartref ar ôl trethi a didyniadau. Byddai incwm net o enillion cyflogaeth yn cael ei ystyried. Nid yw'n cynnwys incwm o Gredyd Cynhwysol na budd-daliadau eraill.

Gall newidiadau mewn amgylchiadau effeithio ar eich budd-daliadau a dylech roi gwybod i'r Adran Gwaith a Phensiynau neu eich Canolfan Byd Gwaith ar unwaith.

Mae hyn yn cynnwys newid i:

  • statws perthynas
  • costau gofal plant
  • oriau gwaith
  • lefelau incwm
  • amgylchiadau'r person ifanc
  • p'un a ydych yn gadael y DU am fwy nag wyth wythnos

Os na fydd y budd-dal sydd wedi eich galluogi i hawlio prydau ysgol am ddim ar gyfer eich plant yn cael ei dalu i'ch teulu mwyach, rhaid i chi roi gwybod i'ch awdurdod lleol am y newid yn eich amgylchiadau.

Yr awdurdod lle mae'r disgybl yn mynd i'r ysgol, nid lle mae'r disgybl yn byw, sy'n gyfrifol am y canlynol:

  • darparu'r prydau ysgol am ddim
  • asesu p'un a yw hawlydd yn gymwys.

Nodir y diffiniad o ‘riant’ yn adran 576 o Ddeddf Addysg 1996. Mae'n cynnwys unrhyw berson sy'n gofalu am y plentyn. Mae hyn yn cynnwys rhieni maeth hefyd. Nid oes yn rhaid i'r plentyn fyw gyda'r rhiant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Mae deddfwriaeth prydau ysgol am ddim yn galluogi rhieni maeth i hawlio prydau ysgol am ddim. Cyn belled â bod rhiant yn gymwys i hawlio prydau ysgol am ddim, gall y plentyn eu cael. Mae'n bosibl y gall fod gan blentyn bedwar rhiant; dau riant maeth a dau riant naturiol.

Os bydd unrhyw un o'r pedwar rhiant hyn yn bodloni'r meini prawf, yna bydd eu plentyn yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Byddai hyn hefyd yn wir petai nain a thaid/mam-gu a thad-cu neu aelodau eraill o'r teulu yn gofalu am y plentyn.

Fodd bynnag, caiff lwfans ei dalu i rai rhieni maeth, sy'n cynnwys arian i dalu cost prydau ysgol. Efallai y bydd y rhiant maeth a'r awdurdod lleol am gytuno ar y ffordd y bydd hyn yn gweithio mewn perthynas â phrydau ysgol am ddim. Gallai'r plentyn gael y prydau ysgol am ddim ac ni fyddai'r elfen o'r lwfans sy'n gysylltiedig â phrydau ysgol yn cael ei thalu i'r rhiant maeth.

Fel arall, gallai'r rhiant maeth gytuno i beidio â hawlio'r pryd ysgol am ddim a byddai'r lwfans llawn yn cael ei dalu iddo. Mae hwn yn fater y bydd angen i'r awdurdod a'r rhiant maeth ddod i gytundeb yn ei gylch.