Hepgor gwe-lywio

Amcanion

Amcanion a Chanlyniadau’r Prosiect

Mae’n bwysig bod gennym weledigaeth a nodau, felly dyma restr fanwl sy’n disgrifio cwmpas Prosiect y Mawndiroedd Coll.

Ein Hamcanion

Treftadaeth Naturiol

  1. Adfer cynefinoedd ucheldir y Mawndiroedd Coll a’u rheoli mewn modd priodol. Byddwn yn gwella eu cyflwr er mwyn cynyddu bioamrywiaeth ac yn sicrhau eu bod yn dod yn ecosystemau sy’n gweithio. Bydd hyn yn helpu i leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd, tanau gwyllt a llifogydd.
  2. Arolygu a monitro cynefinoedd, rhywogaethau a hydroleg yn ardal y Mawndiroedd Coll. Bydd hyn yn sicrhau bod y dreftadaeth naturiol yn cael ei chofnodi a’i deall yn well, ac yn llywio’r gwaith rheoli, adfer ac arfer gorau parhaus.
  3. Cynnal gwaith ymchwil sy’n rhoi sylw i’r bylchau yng ngwyddor adfer mawndiroedd wedi’u coedwigo. Bydd hyn yn llywio’r gwaith adfer parhaus yn ardal y Mawndiroedd Coll ynghyd ag arfer gorau ledled Cymru a’r tu hwnt.

Treftadaeth Hanesyddol

  1. Ymchwilio i’r rhyngweithio hanesyddol rhwng y tirlun a’i bobl dros amser a’i gofnodi. Byddwn wedyn yn rhannu’r storïau rhyfeddol sy’n deillio o’r gwaith hwnnw.

Cyfleusterau

  1. Gwella’r ddarpariaeth o ran mynediad, dehongli a gweithgareddau. Bydd hyn yn annog pobl i archwilio ardal y Mawndiroedd Coll. Byddwn yn darparu cyfleoedd i gymunedau ac ymwelwyr ailgysylltu, dysgu am dreftadaeth a mannau gwyrdd cyfoethog y tirlun a dysgu amdanynt.

Pobl

  1. Gwella iechyd a lles pobl. Byddwn yn darparu rhaglenni o brofiadau a gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar iechyd a llesiant y gall pawb eu mwynhau. Bydd modd cael mynediad iddynt trwy hunangyfeirio a thrwy atgyfeiriadau gan ddarparwyr iechyd (rhoi presgripsiynau gwyrdd cymdeithasol)
  2. Darparu cyfleoedd dysgu, gan ddefnyddio tiroedd ysgol a mannau awyr agored yn arbennig. Bydd hyn yn gyfle i ysgolion, cymunedau a gweithwyr proffesiynol ymgysylltu â threftadaeth y Mawndiroedd Coll. Bydd modd i bobl ddatblygu sgiliau a dealltwriaeth newydd a allai arwain at ganlyniadau gwych.
  3. Darparu cyfleoedd i wirfoddolwyr a myfyrwyr fod yn rhan o’r prosiect. Byddant yn helpu i reoli, monitro a chofnodi’r dreftadaeth naturiol a hanesyddol. Bydd modd hefyd iddyn nhw ddatblygu sgiliau rheoli ymarferol traddodiadol a meithrin gwell ymdeimlad o stiwardiaeth ar yr un pryd.
  4. Hyrwyddo prosiect y Mawndiroedd Coll trwy gyfrwng gwaith marchnata a dehongli arloesol. Bydd hyn yn cynyddu ymwybyddiaeth o’r prosiect ac ymgysylltiad ag ef. Bydd hefyd yn hyrwyddo’r ardal fel cyrchnod gwerth ymweld ag ef a gwerth ei archwilio a’i brofi.
  5. Darparu digwyddiadau a gweithgareddau sy’n fodd i gymunedau ac ymwelwyr fwynhau a chysylltu â’u treftadaeth leol.

Gwyddoniaeth ac Ymchwil

  1. Llywio ac arddangos arfer gorau a safon uchel o gynaliadwyedd amgylcheddol ym mhob agwedd ar y prosiect.
  2. Cyflwyno rhaglen helaeth i fonitro a gwerthuso ein holl waith cynefinoedd, gan arwain at dystiolaeth wyddonol a fydd yn llywio’r gwaith o adfer mawndiroedd ledled Cymru a’r tu hwnt.

Canlyniadau Disgwyliedig