Hepgor gwe-lywio

CYMUNED

Mae Prosiect Mawndiroedd Coll De Cymru yn darparu llawer o gyfleoedd i bobl leol yn y gymuned ymgysylltu â’u treftadaeth naturiol, ddiwylliannol a hanesyddol.

Mae Prosiect Mawndiroedd Coll De Cymru yn darparu llawer o gyfleoedd i bobl leol yn y gymuned ymgysylltu â’u treftadaeth naturiol, ddiwylliannol a hanesyddol.

Digwyddiadau, Gweithgareddau a Rhaglenni

Byddwn ni’n cynnal calendr cyffrous o weithgareddau a digwyddiadau addas i deuluoedd y gall cymunedau lleol ac ymwelwyr gymryd rhan ynddynt am ddim. Bydd digon o amrywiaeth, gan gynnwys teithiau natur dan arweiniad, sgyrsiau am dreftadaeth leol, gweithdai celf a chrefft, a digwyddiadau cymdeithasol.

Archwilio

Trwy wella mynediad i ardal y prosiect, byddwn yn rhoi cyfle i gymunedau lleol ac ymwelwyr ddarganfod y mawndiroedd ac archwilio’r tirlun trawiadol. Bydd hyn yn cynnwys llwybrau cerdded newydd a gwell gyda gwell arwyddbyst, ochr yn ochr â gwell dehongli, mapiau ac ap digidol ar gyfer ffonau digidol.

Iechyd a Lles

Un o elfennau allweddol Prosiect Mawndiroedd Coll De Cymru yw darparu gweithgareddau awyr agored sydd wedi’u dylunio’n benodol i helpu pobl â phryderon iechyd corfforol a/neu iechyd meddwl, gan hybu gwell iechyd a lles yn y gymuned. Bydd modd i bobl gofrestru i gymryd rhan yn y digwyddiadau hyn eu hunain neu gael eu hatgyfeirio gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae croeso i bawb a bydd y gweithgareddau’n cynnwys teithiau tywysedig, coginio yn yr awyr agored, celf a chrefft yn yr awyr agored, ynghyd â thasgau cadwraeth ymarferol.

Hyfforddiant

Ein bwriad yw darparu a hwyluso nifer o sesiynau hyfforddi gwahanol trwy Brosiect Mawndiroedd Coll De Cymru. Bydd cyfle i bobl ddysgu sgiliau newydd yn yr awyr agored, o sgiliau adnabod rhywogaethau i dechnegau adeiladu traddodiadol megis codi waliau sych. Ar ben hynny, ein nod yw darparu hyfforddiant proffesiynol ac academaidd, gan ganolbwyntio ar ecoleg ac adfer mawndiroedd a’r ucheldir.

Addysg Awyr Agored

Rydyn ni am ddarparu ystod o gyfleoedd i ysgolion lleol ddysgu yn yr awyr agored yn ardal y prosiect. Bydd hyn yn cynnwys gweithgareddau difyr a llawn hwyl yn yr awyr agored, ymweliadau ysgol i weld y cynefin a’r tirlun unigryw ac ymweliadau â’r fferm wynt drawiadol i ddysgu am ynni adnewyddadwy.