Hepgor gwe-lywio

Gwirfoddoli

Ymunwch â ni!

Hoffech chi fod yn rhan o’r prosiect?

Mae nifer o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael, sy’n cynnwys ein helpu ni i gynnal arolygon bywyd gwyllt, cynorthwyo â thasgau cadwraeth a chefnogi digwyddiadau. Cynhelir diwrnodau gwirfoddoli ar hyd y flwyddyn fel arfer, er bod yr haf yn tueddu i fod yn fwy prysur. Edrychwch ar ein calendr digwyddiadau yma i weld y gweithgareddau sydd i ddod.



Mae bod yn gynhwysol yn bwysig i ni – rydyn ni am i bawb deimlo bod modd iddyn nhw gymryd rhan – felly rydyn ni’n cynnig gweithgareddau ym mhob un o’n Mannau Gwyllt Cymunedol sydd wedi’u lleoli yn y cymunedau ym mhen uchaf Cwm Afan neu Gwm Rhondda Fawr neu’n agos atynt. Neu os byddwch chi am fentro i dir gwyllt go iawn, ymunwch â ni ar y mawndiroedd yn ein Hardaloedd Adfer Cynefinoedd.

Bydd y prosiect yn darparu’r holl gyfarpar i gyflawni’r tasgau, yn ogystal â’r Cyfarpar Diogelu Personol (e.e. dillad ac esgidiau glaw) os bydd eu hangen arnoch. Rydyn ni hefyd yn gallu talu costau teithio i’n gwirfoddolwyr sy’n gwneud y daith i’r ardaloedd mawndir.

Cysylltwch â ni os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth neu os oes gennych chi sgil penodol y gallwch ei gynnig i’r prosiect. Byddem hefyd yn falch iawn o glywed gennych os gallwch rannu gwybodaeth â ni am eich tirlun lleol.

Mae mor bwysig na fydd hanes, traddodiadau, atgofion am yr ardal a’r defnydd o dir yn y gorffennol yn cael eu colli. Cysylltwch â ni os hoffech chi rannu unrhyw beth â ni neu os ydych chi’n perthyn i grŵp lleol a fyddai’n gallu ein helpu i gasglu’r wybodaeth hon.