Hepgor gwe-lywio

Y 10 RHYWOGAETH AR Y BRIG

Bywyd gwyllt rhyfeddol

Y 10 RHYWOGAETH AR Y BRIG

Y Troellwr Mawr

Mae’r Troellwr Mawr yn rhywogaeth gyfnosol sydd ond yn dod allan wrth iddi dywyllu a goleuo, ac mae gan yr adar hyn gân drawiadol sy’n hawdd ei hadnabod. Mae’r rhywogaeth hon, sy’n mudo ar draws y Sahara, yn dod i fridio yn ystod yr haf yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys ucheldir Cymru yn ardal prosiect y Mawndiroedd Coll. Maen nhw’n dibynnu ar guddliw cêl eu plu a’u hwyau i leihau perygl ysglyfaethwyr a chan mai gwyfynod yw eu prif ffynhonnell fwyd, maen nhw’n ddangosydd da o boblogaeth iach o wyfynod.

Llygoden bengron y dŵr

Mae gan lygod pengrwn y dŵr ffwr brown, trwyn smwt, clustiau bach a chynffon flewog. Maen nhw’n byw, yn nodweddiadol, mewn cyrsiau dŵr araf yn yr iseldir, ond cafwyd hyd i lawer o boblogaethau ucheldir yn ardal y prosiect a’r cyffiniau, gan gynnwys rhai yn Ardaloedd Adfer Cynefinoedd Castell y Nos a Phen y Cymoedd. Mae niferoedd y rhywogaeth wedi dirywio’n enbyd, gyda rhai adroddiadau’n awgrymu colled o 94% ar draws y Deyrnas Unedig, felly rydym wrth ein bodd yn gweithio ar gynlluniau adfer a fydd yn diogelu’r rhywogaeth hon ac yn rhoi hwb i’r niferoedd.

Mwsogl migwyn

Migwyn yw peiriannydd ecosystemau ein holl gynefinoedd mawndir, gan ei fod yn dal sawl gwaith ei bwysau o ddŵr, yn ffurfio mawn wrth iddo bydru’n araf ac yn creu’r amodau angenrheidiol i alluogi rhywogaethau arbenigol i gytrefu’r cynefinoedd. Gall migwyn edrych yn amrywiol yn ôl y rhywogaeth, gall fod yn drwchus, yn denau, yn goch, yn wyrdd, yn felynaidd gyda rhai mathau yn gallu ffurfio ponciau ac eraill i’w canfod mewn pantiau gwlyb. Fodd bynnag, mae ffurf unigryw i’w tyfiant, gyda changhennau mewn grwpiau a elwir yn ffasgellau o amgylch coesyn canolog a chapitwlwm ar y brig.

Gwlithlys dail crwn

Un o 14 o blanhigion brodorol pryfysol sydd gennym ni yn y Deyrnas Unedig, mae dail coch y Drosera rotundiflora wedi’u gorchuddio â blew hir chwarennol ac maen nhw’n denu pryfed ac yn eu treulio wedyn, gan ddarparu maetholion pwysig y byddent yn methu eu cael fel arall i’r planhigion. Mae’n un o hoff blanhigion nifer o staff a gwirfoddolwyr y prosiect, mae cael hyd i’r rhywogaeth hon yn ein hardaloedd mawndir yn werth y byd bob amser.

Plu’r gweunydd

Mae plu’r gweunydd a phlu’r gweunydd unben, sy’n hawdd eu hadnabod pan ddaw’r pennau hadau gwyn i’r golwg, yn tyfu ar ein safleoedd mawndir. Er gwaethaf yr enw, hesg yw'r rhywogaeth hon mewn gwirionedd ac mae hen hanes o ddefnyddio’r planhigion i lenwi clustogau a chreu wiciau cannwyll. Mae’r rhywogaeth hon, sy’n tyfu’n helaeth ar draws y Deyrnas Unedig, yn arwydd clir y bydd angen esgidiau glaw arnoch ar eich taith gerdded.

Gwiber

Mae gan y wiber batrwm igam-ogam tywyll ar hyd ei chefn gyda rhes o smotiau tywyll bob ochr iddo. Mae’r nadroedd hyn yn amrywio o ran eu lliw o lwydwyn (gwrywod yn bennaf) i frown (benywod) neu hyd yn oed ddu (unigolion melanig). Y rhain yw’r unig nadredd sy’n byw yn y cylch arctig, ond yn ardal y Mawndiroedd Coll, rhostir a gweundir yw’r cynefin allweddol iddynt. Mae’r neidr hardd hon wedi gweld dirywiad sydyn mewn niferoedd yn sgîl colli cynefinoedd ac erledigaeth, ac mae angen prosiectau fel yr hwn i amddiffyn poblogaethau’r rhywogaeth hon yn y dyfodol.

Y chwilen werdd resog

Mae’r lliw gwyrdd symudliw a’r smotiau golau ar ei chefn yn golygu bod y chwilen werdd resog yn hawdd ei hadnabod ac yn ddiddorol iawn i’w gwylio. O ran eu hyd, mae’r chwilod hyn yn 15mm neu oddeutu hynny ac maen nhw’n symud ar wib ar hyd y llawr ond hefyd yn gallu hedfan dros bellteroedd byr. Gellir cael hyd i’r rhywogaeth hardd hon ar rostir a glaswelltir ar draws ardal y prosiect, ac mewn cynefinoedd gwastraff glo fel Ardal Adfer Cynefinoedd Cwm Saerbren a CWS Tomen y Cymer. 

 

Clwbfwsoglau

Mae clwbfwsoglau, a fu ar un adeg yn gyffredin iawn mewn fforestydd glaw carbonifferaidd dros 400 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn perthyn yn agosach i redyn nag i fwsoglau. Mae tair o’r saith rhywogaeth o glwbfwsoglau ym Mhrydain i’w canfod yn ardal prosiect y Mawndiroedd Coll, sef y cnwp-fwsogl mawr, y cnwp-fwsogl corn carw a’r cnwp-fwsogl alpinaidd. Mae planhigfeydd coedwigaeth yn cynnig lloches i’r rhywogaethau hyn rhag y pori a’r llosgi sydd wedi difrodi llawer o’u cynefinoedd nodweddiadol ac mae modd eu gweld ar ymylon llwybrau ar hyd ardal y prosiect.

Y brith perlog bach

Mae nifer o berlau lled wyn ar ochr isaf adenydd ôl y pili pala brith hwn. Ar hyd ymyl yr adenydd allanol mae llinellau onglog du gyda smotyn mawr du yn y canol. Mae’r lindys yn bwyta blodau fioled ac mae hon yn rhywogaeth ddeniadol sydd i’w chael ar safleoedd lle mae rhostir a glaswelltir asidig toreithiog. Yn yr haf, mae’r rhywogaeth hardd hon i’w gweld yn aml yn hedfan gyda’r brith gwyrdd. Bydd adfer a diogelu’r cynefinoedd yn nyffrynnoedd a chymoedd cysgodol ardal y prosiect yn sicrhau y bydd gan y rhywogaeth hon gadarnle bob amser yng nghymoedd De Cymru.

Ystlumod

Mae pawb yn gyfarwydd â’r ystlum – y rhywogaeth hynod sy’n dod allan i chwilio am fwyd wrth i’r haul fachlud. Mae gan y prosiect rôl bwysig o ran ystlumod gan fod corsydd yn fannau bridio gwych ar gyfer infertebratau sy’n cefnogi ein poblogaethau lleol o ystlumod. Mae nifer o rywogaethau o ystlumod wedi’u cofnodi ar draws holl safleoedd adfer y prosiect a chofnodwyd yr ystlum lleiaf a’r ystlum lleiaf meinlais ar bob un o’r safleoedd. Y newyddion cyffrous yw bod rhywogaethau eraill fel yr ystlum mawr, yr ystlum clustlydan a rhywogaethau mwy prin, megis yr ystlum pedol lleiaf wedi’u cofnodi hefyd.