Gwybodaeth Ychwanegol am Ofal Plant
Yn ystod tymor yr ysgol, bydd y cynnig yn cynnwys o leiaf 10 awr o addysg gynnar yr wythnos. Ar ben hynny, bydd y gyfran o addysg gynnar ac oriau gofal plant yn dibynnu ar nifer yr oriau o addysg gynnar a gynigir gan bob ysgol unigol.
Yn ystod tymor yr ysgol, ni all plentyn dderbyn mwy na chyfanswm o 30 awr o ofal plant a ariennir a darpariaeth addysg gynnar. Er enghraifft, os bydd ysgol yn cynnig 15 awr o ddarpariaeth addysg gynnar bob wythnos, gellir darparu uchafswm o 15 awr o ofal plant a ariennir yn ychwanegol at hyn.
Mae gan blant hawl i dair wythnos o wyliau ar gyfer pob tymor llawn y mae ganddynt fynediad at y cynnig (uchafswm o 9 wythnos o wyliau mewn blwyddyn ysgol). Mae gan bob plentyn hawl i 30 awr o ofal plant a ariennir yn ystod ei wythnosau gwyliau dewisol.
RHIF YR WYTHNOS O WYLIAU |
ENW ARFEROL |
DECHRAU |
DIWEDD |
---|---|---|---|
1 |
Hanner tymor yr hydref/mis Hydref |
31/10/2022 |
06/11/2022 |
2 |
Gwyliau'r Nadolig |
26/12/2022 |
01/01/2023 |
3 |
Gwyliau'r Nadolig |
02/01/2023 |
08/01/2023 |
4 |
Hanner tymor y gwanwyn/mis Chwefror |
20/02/2023 |
26/02/2023 |
5 |
Gwyliau'r Pasg |
03/04/2023 |
09/04/2023 |
6 |
Gwyliau'r Pasg |
10/04/2023 |
16/04/2023 |
7 |
Hanner tymor yr haf/y Sulgwyn |
29/05/2023 |
04/06/2023 |
8 |
Gwyliau'r Haf – Wythnos 1 |
24/07/2023 |
30/07/2023 |
9 |
Gwyliau'r Haf – Wythnos 2 |
31/07/2023 |
06/08/2023 |
10 |
Gwyliau'r Haf – Wythnos 3 |
07/08/2023 |
13/08/2023 |
11 |
Gwyliau'r Haf – Wythnos 4 |
14/08/2023 |
20/08/2023 |
12 |
Gwyliau'r Haf – Wythnos 5 |
21/08/2023 |
27/08/2023 |
13 |
Gwyliau'r Haf – Wythnos 6 |
28/08/2023 |
03/09/2023 |
Newid yn fy Amgylchiadau Cyflogaeth
Os bydd eich amgylchiadau'n newid, gallwch gyflwyno 'Cyfnod Esemptio Dros Dro' ar gyfer y Cynnig Gofal Plant. Bydd Cyfnod Esemptio Dros Dro 8 wythnos yn berthnasol i rieni y mae eu hamgylchiadau wedi newid tra'u bod yn derbyn y Cynnig Gofal Plant, sy'n golygu nad ydynt yn gymwys mwyach. Disgwylir i rieni roi gwybod i'w hawdurdod lleol a'u darparwr cyn gynted ag y bydd eu hamgylchiadau'n newid.