Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Gwybodaeth i Ddarparwyr

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn darparu 30 awr yr wythnos o ofal plant ac addysg gynnar sy’n cael ei ariannu ar gyfer rhieni cymwys sy’n gweithio ac sydd â phlant 3-4 oed, hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Mae'r cynnig yn cynnwys cyfuniad o'r ddarpariaeth addysg gynnar bresennol sydd ar gael i bob plentyn 3 a 4 oed yn CNPT mewn ysgolion a gynhelir a gofal plant ychwanegol a ariennir.

Oes angen i mi gyflwyno’r addysg gynnar i gyflwyno elfen gofal plant y cynnig?

Nac oes. Bydd rhai plant yn parhau i gael mynediad i addysg gynnar mewn lleoliadau a gynhelir. Does dim angen i ddarparwyr gofal plant gyflwyno elfennau addysg gynnar a gofal plant y cynnig.

Bydd pob plentyn 3 oed yn cael mynediad i’r cyfnod sylfaen mewn lleoliadau ysgol.

Faint bydd darparwyr yn ei dderbyn?

Bydd darparwyr gofal plant yn derbyn £5.00 yr awr am bob plentyn. Os ydych chi fel arfer yn codi mwy na hyn, ni allwch ofyn i rieni dalu arian ychwanegol.

Allwn ni godi tâl am elfennau ychwanegol?

Gallwch godi tâl am elfennau ychwanegol fel bwyd, cludiant a gweithgareddau oddi ar y safle y mae cost ychwanegol amdanynt. Mae Llywodraeth Cymru'n rhoi arweiniad ar ffïoedd ychwanegol. Mae arweiniad Llywodraeth Cymru ynghylch codi ffïoedd ychwanegol yn unol â'r cynnig ar gyfer sesiwn gofal diwrnod llawn (oddeutu 10 awr) yn dweud na ddylid codi mwy na £9.00 y diwrnod ar rieni (bydd hyn yn cynnwys tri phryd o fwyd gwerth £2.50 y pryd a 2 fyrbryd sy'n costio 75c yr un).

Ar gyfer sesiwn hanner diwrnod (oddeutu 5.5 awr) ni ddylid codi mwy na £5.75 ar rieni (dau bryd o fwyd gwerth £2.50 a byrbryd sy'n costio 75c). Ar gyfer gofal sesiynol lle na ddarperir pryd o fwyd ond mae plant yn cael byrbryd, mae'r arweiniad yn nodi na ddylid codi mwy na 75c y diwrnod ar rieni ar gyfer darparu byrbryd.

Oes yna gyrff cefnogi ar gael i helpu?

Oes, mae’r cyrff canlynol yn cynnig cefnogaeth i ddarparwyr gofal plant:

Sut mae gwneud cais

Bydd rhieni sy’n gwneud cais am Oriau Gofal Plant ar gyfer mis Ionawr 2023 yn defnyddio’r gwasanaeth newydd o dymor yr hydref 2022 ymlaen. Bydd angen i ddarparwyr gofal plant fod wedi creu cyfrif ar y gwasanaeth newydd cyn hynny.

Cyn mis Ionawr 2023-Er mwyn bod yn ddarparwr gofal plant cofrestredig dan y Cynnig Gofal Plant i Gymru, llenwch y ffurflen isod a'i hanfon ar e-bost i childcareoffer@npt.gov.uk neu drwy'r post i Tŷ Ffrwydwyllt, Tai-bach, SA13 1PZ.

Provider Registration Form.CYMRAEG

  • cofrestru a llofnodi'r darparwr.doc.CYMRAEG (DOCX 76 KB)

    m.Id: 19787
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: cofrestru a llofnodi'r darparwr.doc.CYMRAEG
    mSize: 76 KB
    mType: docx
    m.Url: /media/11986/hr_appendix_4-welsh.docx

  • Annex 3 - Childcare Offer Declaration (Yn Saesneg) (DOCX 251 KB)

    m.Id: 25097
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Annex 3 - Childcare Offer Declaration (Yn Saesneg)
    mSize: 251 KB
    mType: docx
    m.Url: /media/14090/annex-3-childcare-offer-declaration.docx

  • Appendix 4 - New Supplier Set Up Form (Yn Saesneg) (DOCX 78 KB)

    m.Id: 25098
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Appendix 4 - New Supplier Set Up Form (Yn Saesneg)
    mSize: 78 KB
    mType: docx
    m.Url: /media/14091/appendix-4-new-supplier-set-up-form.docx

Lawrlwytho...
Packaging:  
Complete


 phwy galla i gysylltu i gael rhagor o wybodaeth?

Gallwch chi gysylltu â Thîm Cynnig Gofal Plant Cyngor Castell-nedd Port Talbot trwy anfon e-bost i childcareoffer@npt.gov.uk

Cynnig Gofal Plant - Hysbysiad Preifatrwydd Mai 2019

  • Cynnig Gofal Plant - Hysbysiad Preifatrwydd Mai 2019 (DOCX 161 KB)

    m.Id: 19567
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Cynnig Gofal Plant - Hysbysiad Preifatrwydd Mai 2019
    mSize: 161 KB
    mType: docx
    m.Url: /media/11845/mai-2019-cgp-hysbysiad-preifatrwydd-cym.docx