Hepgor gwe-lywio

This is a new website – your feedback will help us improve it.

Ymunwch â NPT Buy Local

Rydym yn falch o'n busnesau yng Nghastell-nedd Port Talbot; yr ydych wedi gweithio mor galed i gefnogi eich cwsmeriaid yn ystod y cyfnod cloi ac rhydym am eich cefnogi chi a'n heconomi leol gymaint ag y gallwn.

Rydym bellach wedi lansio ein hymgyrch #NPTBuyLocal yn hyrwyddo un cyfeirlyfr ar-lein hawdd ei ddefnyddio o siopau a busnesau annibynnol lleol o ansawdd. Gall siopwyr chwilio yn ôl categori, ardal neu opsiynau dosbarthu.

Os ydych yn rhedeg siop neu fusnes yn ardal Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, cofrestrwch heddiw. Mae'n RHAD AC AM DDIM ac mae bod yn rhan o NPTBuyLocal yn golygu y bydd siopwyr yn dod o hyd i chi wrth bwyso botwm.

A pheidiwch ag anghofio, unwaith y byddwch wedi ychwanegu eich manylion, postiwch amdano a thagiwch ni i mewn. Mae ein cyfathrebiadau yn cyrraedd miloedd o ddarpar gwsmeriaid ac rydym yn hapus i helpu i ledaenu'r gair.

Cofrestrwch eich busnes