Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Dogfen

Cyfarfod Tasglu Ysgol Godre’r Graig – 05.09.2019

Mynychwyr

Cynghorwyr

  • R.G Jones (Arweinydd) - Arweinydd y Cyngor
  • A. J. Taylor (AJT) - Dirprwy Arweinydd y Cyngor

Swyddogion

  • Aled Evans (AE) - Cyfarwyddwr Addysg
  • Nicola Pearce (NP) - Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd
  • Mike Shaw (MS) - Prif Gyfreithiwr
  • Andrew Thomas (AT) - Pennaeth Trawsnewid
  • Dave Griffiths (DG) - Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth
  • Huw Jones (HJ) - Pennaeth Gwasanaethau Ariannol
  • Simon Brennan (SB) - Pennaeth Eiddo ac Adfywio
  • Sylvia Griffiths (SG) - Ymgynghorydd Marchnata a Chyfathrebu Strategol
  • Neil Evans (NE) - Uwch-swyddog Gweithredol
  • Clive Barnard (CB) - Rheolwr Cynllunio a Phrosiectau Pensaernïol
  • Roger Bowen (RB) - Cydlynydd Rheoli Rhaglen
  • Peter Curnow (PC) - Swyddog Prosiect Trawsnewid
  • Rhiannon Crowhurst (RC) - Rheolwr Prosiect Trawsnewid

Nodiadau Gweithredu Cyfarfod 21 Awst

Nododd yr arweinydd fod y nodiadau gweithredu wedi cael eu cytuno y tu allan i’r cyfarfod er mwyn galluogi gwaith i ddigwydd rhwng cyfarfodydd

Materion yn Codi

Nodwyd y bydd yr ysgol yn cael ei throsglwyddo i’r Cyngor ddydd Gwener fel y nodwyd ynghynt.

O ran costau’r prosiect, rhoddwyd gwybod i’r cyfarfod nad oedd y Prif Weithredwr wedi siarad eto ag Ymgynghorwyr Arbennig Llywodraeth Cymru, ond y byddai’n gwneud ar ôl i set derfynol o gostau gael eu cytuno. Cadarnhaodd yr Arweinydd y dylid terfynu costau cyn gynted â phosib, a’u cylchredeg iddo yntau ac i’r Prif Weithredwr.

Dywedodd yr Arweinydd fod y cwmni a oedd wedi gosod yr ysgol dros dro wedi gwneud cais i ddefnyddio’i ddyfyniad ef fel rhan o’u marchnata i’r dyfodol.

Nodwyd fod y BBC wedi gwneud stori ar nos Lun oedd yn rhoi sylw i ofidiau gan riant. Dywedwyd y byddai’r Arweinydd a’r Prif Weithredwr yn cwrdd â’r grŵp gweithredu lleol, Tegwch, yn ddiweddarach yn y mis.

Gofynnodd yr Arweinydd a fyddai’n ddymunol efallai i wahodd i BBC ar ddiwedd yr wythnos nesaf i ymweld â’r ysgol dros dro i dynnu sylw at y gwaith a gyflawnwyd. AT ac SG i gysylltu â’r Pennaeth a thrafod i weld pryd fyddai’n amser cyfleus.

Awgrymwyd ymhellach y byddai’n syniad hefyd i gynnwys Ysgol Cwmtawe, am eu bod wedi bod mor gymwynasgar wrth hwyluso’r gwaith symud.

Cytunwyd y byddai AE yn drafftio llythyr at Benaethiaid a Chadeiryddion Llywodraethwyr ysgolion Godre’r Graig a Chwmtawe i ddiolch iddynt am eu cefnogaeth ac am eu rôl wrth hwyluso’r gwaith angenrheidiol.

O ran diddordeb gan y cyfryngau, awgrymwyd y gallai’r BBC ymddangos ar y safle ddydd Llun. Nodwyd na fydden nhw’n gallu mynd i’r ysgol nac ar ei thir, ond y gallent ffilmio o’r tu allan. Awgrymwyd y dylai SG Siarad â’r BBC i gynghori y bydden nhw’n cael gwahoddiad i ddod i’r ysgol i ffilmio os a phryd y byddai’n addas.

Nododd RB nad oedd casglu sbwriel yr ysgol wedi cael ei drefnu. DG i siarad â’r adran wastraff i roi ar waith.

Nodwyd y dylid rhoi ystyriaeth i amserlen o gynnal a chadw yn yr hen ysgol er mwyn sicrhau pe byddai’n iawn i’r disgyblion ddychwelyd yno yn y dyfodol y byddai’n dal yn addas i’w bwrpas. SB a CB i ddatblygu amserlen.

Cytunodd y cyfarfod ei bod hi’n hanfodol ailadrodd neges allweddol sef y gall y gymuned gynorthwyo wrth gadw llygad dros yr ysgol i sicrhau nad oes dim fandaliaeth yn digwydd. Awgrymwyd y gellir atgyfnerthu’r neges hon mewn diweddariadau cyfryngau pellach.

Nododd RB fod rhai adnoddau nad oedden nhw wedi cael eu hystyried ar gyfer cael eu symud yn syth o’r ysgol. Pwysleisiodd yr Arweinydd ei bod hi’n flaenoriaeth storio’n ddiogel unrhyw adnodd oedd ar hen safle’r ysgol ar hyn o bryd, oedd yn ymwneud ag unrhyw wybodaeth bersonol. Nododd MS mai dyma’r safiad cywir i’w gymryd a bod yn rhaid blaenoriaethu storio gwybodaeth o’r fath bellach. RB/AT i ddatblygu mater storio ar frys.

Dywedodd DG fod rhiant wedi dweud yn y cyfweliad diweddar â’r BBC eu bod wedi cerdded ar y mynydd a nodi nad oedd unrhyw waith wedi digwydd. Aeth DG yn ei flaen i ddweud fod hyn yn anghywir a bod gwaith sylweddol wedi digwydd i glirio llystyfiant.

Cytunwyd y dylai DG ac AT hefyd fynychu’r cyfarfod gyda Tegwch ynghyd â’r Arweinydd a’r Prif Weithredwr ar 17 Medi am 2pm.

Cytunwyd y dylid nodi’r gweithredoedd canlynol:

  • SG ac NE gyhoeddi / cylchredeg nodiadau gweithredu;
  • AT ac SG i drafod posibilrwydd o gael ymweliad gan y cyfryngau pan fydd yr ysgol wedi ymgartrefu;
  • AE i ddrafftio llythyr at Benaethiaid a Chadeiryddion Llywodraethwyr ysgolion Godre’r Graig a Chwmtawe;
  • DG i siarad â’r adran wastraff i sicrhau fod trefniadau’n cael eu gwneud i gasglu sbwriel;
  • SB a CB i ddatblygu amserlen gynnal a chadw ar gyfer hen adeilad yr ysgol;
  • AT ac RB i ystyried storio gwybodaeth ar fyrder;
  • NE i gylchredeg manylion am y cyfarfod â Tegwch ymysg y swyddogion perthnasol.

Nodwyd na fyddai cyfarfod yn cael ei drefnu’n awtomatig ar gyfer wythnos nesaf, ond pe bai gan unrhyw swyddog rywbeth arwyddocaol yr hoffent ei drafod, yna dylid rhoi gwybod i’r Arweinydd a gellir trefnu cyfarfod os bernir fod angen un.