Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Dogfen

Cyfarfod Tasglu Ysgol Godre’r Graig – 28.08.2019

Mynychwyr

Cynghorwyr

  • R.G Jones (Leader) - Arweinydd y Cyngor
  • P.A. Rees (PR) - Aelod Cabinet dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant
  • E.V. Latham (EL) - Aelod Cabinet dros Strydlun a Pheirianneg

Swyddogion

  • Steven Phillips (SP) - Prif Weithredwr
  • Gareth Nutt (GN)  - Cyfarwyddwr yr Amgylchedd 
  • Craig Griffiths (CG)- Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Andrew Thomas (AT) - Pennaeth Trawsnewid
  • Dave Griffiths (DG) - Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth
  • Huw Jones (HJ) - Pennaeth Gwasanaethau Ariannol
  • Robin Turner - Parther Busnes Cyfathrebu Corfforaethol 
  • Neil Evans (NE) - Uwch-swyddog Gweithredol
  • Clive Barnard (CB) - Rheolwr Cynllunio a Phrosiectau Pensaernïol
  • Roger Bowen (RB) - Cydlynydd Rheoli Rhaglen
  • Rhiannon Crowhurst (RC) - Rheolwr Prosiect Trawsnewid

Nodiadau Gweithredu Cyfarfod 21 Awst

Nododd yr arweinydd fod y nodiadau gweithredu wedi cael eu cytuno y tu allan i’r cyfarfod er mwyn galluogi gwaith i ddigwydd rhwng cyfarfodydd

Materion yn Codi

Nodwyd fod ymweliad staff wedi’i drefnu’n amodol ar gyfer 4 Medi, ond bod hyn ynn dibynnu ar fod y rhan fwyaf o waith wedi cael ei wneud.

Holodd yr Arweinydd a oedd costau’n cael eu pasio i’r Pennaeth Gwasanaethau Ariannol, a chadarnhawyd eu bod am eu bod yn cael eu derbyn. Dywedodd SP ei bod hi bellach yn amser dechrau datblygu’r cynnig i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru i adennill y costau unwaith y bydd yr ysgol yn agor.

Dywedodd yr Arweinydd y byddai’n rhaid cael deilliant ar ddiwedd y cyfarfod sef dyddiad diffiniol ar gyfer agor yr ysgol, am y byddai hyn yn rhoi cyfle i athrawon drefnu ac i rieni wneud unrhyw drefniadau amgen yn ôl y galw.

Dywedodd CB fod y gwaith yn mynd rhagddo’n dda, a bod pob uned wedi’i chyflenwi i’r safle a’r gwaith angenrheidiol yn digwydd. Roedd trafodaethau wedi’u cynnal gyda’r contractwr, ac o ystyried maint y dasg, roedd hwnnw wedi cadarnhau mai 6 Medi fyddai’r dyddiad trosglwyddo.

Gofynnodd yr arweinydd am gytundeb y gellir gwneud datganiad fod y Cyngor yn gweithio tuag at agor yr ysgol ar 9 Medi, ac roedd yn 95% yn siŵr y byddai hyn yn digwydd.

Cytunodd AT i ddrafftio nodyn i gynghori rhieni a staff o’r trefniadau, i’w gyhoeddi ar y cyfle cyntaf. Dylai’r nodyn gynnwys gwybodaeth fod y dyddiad hwn yn realistig oni bai fod unrhyw broblemau na ellid mo’u rhagweld yn codi. NE i rannu’r wybodaeth gyda’r Cynghorydd Ros Davies a Tegwch i ehangu’i led i’r eithaf.

Gofynnodd yr Arweinydd i CB gysylltu ag AT drwy gydol yr wythnos i ddod rhag ofn y byddai unrhyw amgylchiadau na ellid mo’u rhagweld yn codi.

Unrhyw Fater Arall

Dywedodd AT fod glanhawyr ysgol wedi cael eu trefnu i fynychu’r ysgol ar fore 9 Medi.

Roedd trefniadau wedi’u cytuno â chwmni symud celfi y bydden nhw’n casgli’r offer o’r ysgol ar ddydd Gwener 6 Medi gyda’r bwriad o’i gyflenwi i’r lleoliad dros dro ar 7 Medi.

Dywedodd DG ei fod wedi derbyn Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth ac ymholiadau am gyhoeddi adroddiad terfynol ESB a gofynnwyd a fyddai modd rhannu / cyhoeddi hwn bellach, Cytunodd yr Arweinydd y gellir rhannu hwn bellach, am ei fod yr un peth â’r adroddiad drafft.

Holwyd a oedd Pennaeth Ysgol Cwmtawe a rheolwr Canolfan Hamdden Pontardawe wedi cael gwybod am yr holl faterion. Cytunodd AT i siarad â rheolwr y Ganolfan Hamdden.

Gofynnwyd cwestiwn i CG o ran pa adroddiadau allai fod eu hangen er mwyn cadw at unrhyw faterion cyfansoddiadol. CG i edrych ar gyfansoddiad y Cyngor a chynghori’n unol â hynny.

Cytunodd SP y byddai’n siarad â Llywodraeth Cymru ac yn benodol â’r Ymgynghorwyr Arbenigol i Weinidogion, er mwyn eu gwneud yn ymwybodol o’r deilliannau.

Cytunwyd y dylid nodi’r gweithredoedd canlynol:

  • SG ac NE i gyhoeddi / cylchredeg nodiadau gweithredu;
  • AT i ddrafftio nodyn i’w ddosbarthu i bob rhiant ynglŷn â dyddiad arfaethedig agor yr ysgol;
  • NE i rannu’r nodyn â’r Cynghorydd R Davies a Tegwch;
  • CB i gysylltu â’r Adran Addysg drwy gydol yr wythnos a chynghori ar unwaith os oes unrhyw faterion na ragwelwyd mohonynt yn codi;
  • DG i drefnu fod adroddiad terfynol ESB yn cael ei gyhoeddi / rannu;
  • AT i gysylltu â rheolwr Canolfan Hamdden Pontardawe
  • CG i weld beth oedd manylion unrhyw adroddiadau oedd eu hangen;
  • SP i siarad â'r Ymgynghorwyr Arbennig yn Llywodraeth Cymru.

Y cyfarfod nesaf i’w gynnal o fewn wythnos.