Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Dogfen

Cyfarfod Tasglu Ysgol Godre’r Graig – 01.08.2019

Mynychwyr

Cynghorwyr

  • R.G Jones (Arweinydd) - Arweinydd y Cyngor
  • P.A. Rees (PR) - Aelod Cabinet dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant
  • E.V. Latham (EL) - Aelod Cabinet dros Strydlun a Pheirianneg
  • L. Jones (LJ) - Aelod y Cabinet ar gyfer Diogelwch Cymunedol a Diogelu’r Cyhoedd

Swyddogion

  • Steven Phillips (SP) - Prif Weithredwr
  • Gareth Nutt (GN)  - Cyfarwyddwr yr Amgylchedd 
  • Aled Evans (AE) - Cyfarwyddwr Addysg
  • Craig Griffiths (CG)- Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Andrew Thomas (AT) - Pennaeth Trawsnewid
  • Dave Griffiths (DG) - Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth
  • Huw Jones (HJ) - Pennaeth Gwasanaethau Ariannol
  • Robin Turner - Parther Busnes Cyfathrebu Corfforaethol 
  • Neil Evans (NE) - Uwch-swyddog Gweithredol
  • Clive Barnard (CB) - Rheolwr Cynllunio a Phrosiectau Pensaernïol
  • Peter Curnow (PC) - Swyddog Prosiect Trawsnewid
  • Rhiannon Crowhurst (RC) - Rheolwr Prosiect Trawsnewid
  • Steve Ball (SB) - Rheolwr Datblygu - Cynllunio

Nodiadau Gweithredu Cyfarfod 24 Gorffennaf

Cymeradwywyd y Nodiadau Gweithredu gan bawb oedd yn bresennol.

NE ac RT yn eu tro i drefnu eu bod yn cael eu dosbarthu a’u cyhoeddi.

Materion yn Codi

Soniodd yr Arweinydd fod y Prif Weithredwr, AT ac yntau wedi cwrdd â grŵp lleol a chael trafodaeth fuddiol ar y materion dan sylw. Gofynnodd yr Arweinydd a allai’r Cyngor rannu’r ddogfen grynodol a baratowyd gan Earth Science Partnerships (ESP) gyda’r grŵp lleol Tegwch. Cytunwyd y byddai hynny’n syniad da, a dywedodd DG y byddai’n barod i gwrdd â’r grŵp, ynghyd â chynrychiolydd o ESP. Nododd CG fod rhaid i’r adroddiad crynodol gynnwys ymwadiad yn egluro nad ni sydd wedi’i baratoi.

Dywedodd CB mai tua £351,000 fyddai costau llogi’r ystafelloedd dosbarth dros dro am ddwy flynedd, ond y byddai costau ychwanegol yng nghyswllt gwaith sifil ar gyfer draenio, ffensys, data, cyflenwad dŵr a sylfeini, a hefyd am gyfleustodau, gan fod Western Power wedi sôn am gostau o ryw £11,000. Dywedodd yr Arweinydd y dylid darparu gwybodaeth wrth i gostau ddod i’r amlwg, fel bod modd holi Llywodraeth Cymru i weld a oes cymorth ariannol ar gael.

Dywedodd CB fod y cais cynllunio wedi cael ei gyflwyno, a bod yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 15 Awst. Nodwyd mai caniatâd cynllunio am ddwy flynedd oedd dan sylw, a’r rheswm am hynny oedd y byddai’n cymryd rhyw 9 mis i gynnal yr arolygon a’r gwaith angenrheidiol ar yr ardal yn union o amgylch yr ysgol, felly y teimlad oedd mai doeth fyddai gwneud cais am ddwy flynedd o ganiatâd cynllunio, yn hytrach nag un, yn hytrach na bod angen ailgyflwyno cais am flwyddyn ychwanegol yn
ddiweddarach.

Roedd AT wedi cysylltu â Chyngor Sir Powys ac Ysgol Maes y Dderwen ac wedi cael ar ddeall y byddai’r ysgol yn cynnal adolygiad llety ac yn ymateb i’r Cyngor yn y man. Fodd bynnag, awgrymwyd nad oes rhaid mynd ar ôl yr opsiwn hwn bellach gan fod safle addas wedi dod i’r golwg yn CNPT.

Soniodd AE fod gwaith wedi cael ei wneud mewn perthynas â’r posibilrwydd o ddarparu addysg feithrin drwy’r dydd, ond cytunwyd y gallai hynny achosi problemau logisteg ychwanegol, ac felly bod angen penderfynu a ddylai’r sefyllfa aros fel y mae, neu drefnu darpariaeth drwy’r dydd. Cytunodd y cyfarfod y dylai’r sefyllfa aros fel y mae. DG i gadarnhau’r trefniadau trafnidiaeth yn derfynol.

Dywedodd RT fod cyfathrebu’n parhau, a soniodd PC ei fod yn siarad â’r pennaeth/dirprwy bennaeth yn rheolaidd, a bod unrhyw wybodaeth berthnasol yn cael ei bwydo i’r rhieni. Cytunwyd y byddai modd cyfathrebu ar lefel fanylach ar ôl sicrhau’r caniatâd cynllunio dros dro, gan y byddwn ni’n fwy sicr erbyn hynny pryd mae’r ysgol yn debygol o agor.

Amlygodd AE fod trafodaethau wedi’u cynnal ynghylch materion staffio, yn arbennig prydau ysgol, a bod trafodaethau gydag ysgol Cwmtawe wedi arwain at drefnu bod y prydau ysgol yn cael eu darparu o’u cegin hwy. Byddai’r materion staffio yn cael eu penderfynu’n derfynol yn y man.

Nodwyd y gallai fod angen rhoi’r gorau i’r cyfleuster clwb brecwast presennol ar safle dros dro’r ysgol, oherwydd yr addasiad tebygol i amser agor yr ysgol. Fodd bynnag, petai hynny’n digwydd, byddai staff wrth law i ddarparu byrbryd canol bore.

Gofynnodd LJ faint o blant sy’n defnyddio’r clwb brecwast, a nodwyd bod rhyw 50. Cytunwyd y dylid dosbarthu gwybodaeth i’r rhieni cyn gynted â phosibl.

Rhoddwyd diweddariad pellach mewn perthynas â chyfleusterau TG yn y lleoliad dros dro, a nodwyd nad oedd disgwyl ar hyn o bryd y byddai costau ychwanegol ynghlwm wrth osod y cyfarpar.

Gofynnwyd i CB a fyddai oedi, neu a fyddai modd i’r ysgol agor yn brydlon. Dywedodd CB, fel mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd, fod y cwmni sy’n darparu’r llety yn gweithio gyda golwg ar ddyddiad 6 Medi. Fodd bynnag, mae’r Cyngor a’r contractiwr yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bydd yr ysgol yn gallu cychwyn ddydd Mercher 4 Medi. Bydd hyn yn cael ei gadarnhau yn y man.

Cytunwyd bod y Cyngor yn rhyddhau diweddariad yn cynghori’r gymuned i ofalu am eu hysgolion yn ystod gwyliau’r haf. RT i ddrafftio datganiad i’r wasg.

Awgrymodd yr Arweinydd nad oedd angen cwrdd yr wythnos ganlynol, ond yn hytrach wedi i’r cyfnod ymgynghori ar y cais cynllunio ddod i ben. NE i drefnu. Gan ei bod hi’n gyfnod y gwyliau cytunwyd y dylid darparu nodyn ysgrifenedig i’r cyfarfod nesaf petai swyddog perthnasol yn methu bod yn bresennol neu drefnu dirprwy addas.

Unrhyw fater arall

Holodd PR oedd modd cynnal ymchwiliadau/trafodaethau pellach gan ei fod o dan yr argraff bod disgyblion a staff yr ysgol yn pryderu am neidr oedd yn y pwll, ac yn awyddus i wybod y byddai’n ddiogel. 

Gofynnodd LJ a oedd modd awgrymu opsiynau pellach ar gyfer rhieni sy’n gweithio pe na bai’r ysgol yn gallu ailagor yn brydlon. Nododd yr Arweinydd, er y gallai hynny fod yn broblem, y gallai fod yn sefyllfa debyg i gau ysgol oherwydd tywydd gwael, ac y byddai angen i rieni edrych ar opsiynau oedd ar gael iddyn nhw hefyd. Derbyniodd LJ y pwynt hwn a gofynnodd am roi gwybod i’r rhieni cyn gynted â phosibl os byddai oedi.

Cytunodd y cyfarfod mai’r prif ffocws yw sicrhau bod y plant yn cyrraedd y safle dros dro ar y cyfle cynharaf.

Cytunwyd i nodi’r camau canlynol:

  • SG ac NE i gyhoeddi/dosbarthu’r nodiadau gweithredu cytunedig;
  • SG a PC i sicrhau cyfathrebu cyson gyda’r rhanddeiliaid mae hyn yn effeithio arnynt;
  • AE i ystyried unrhyw faterion staffio posibl a delio gyda nhw;
  • Pob aelod perthnasol o staff i nodi a rhoi gwybod am gostau ychwanegol yn sgîl adleoli Ysgol Godre’r Graig dros dro i’r Cyfarwyddwr Cyllid neu gynrychiolydd, a gwneud hynny’n gyson.

Y cyfarfod nesaf i gael ei drefnu ar ddyddiad ac amser wedi 15 Awst.