Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Cyflwyniad

Y cyngor yw'r awdurdod derbyn ar gyfer yr holl ysgolion cymunedol a gynhelir yn y Fwrdeistref Sirol. Fel yr awdurdod derbyn, y cyngor sy'n pennu'r meini prawf a ddefnyddir wrth ddyrannu lleoedd mewn ysgolion cymunedol. Mae'r ddogfen hon yn nodi trefniadau derbyn 2022/23 ar gyfer y canlynol: dosbarthiadau meithrin mewn ysgolion cynradd cymunedol; ysgolion cynradd cymunedol; ysgolion uwchradd cymunedol; a dosbarthiadau chweched dosbarth cyfrwng Cymraeg mewn ysgol uwchradd gymunedol.

Ar gyfer ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol (h.y. ysgolion ffydd), corff llywodraethu pob ysgol sy'n pennu'r trefniadau derbyn. Gellir cael manylion y trefniadau gan y corff llywodraethu priodol.

Mae'r ddogfen bolisi hon yn nodi'r egwyddorion sy'n sail i'r trefniadau derbyn ar gyfer ysgolion cymunedol ynghyd â'r gweithdrefnau a'r amserlenni ar gyfer derbyn yn ystod blwyddyn ysgol 2022/23 (atodiadau 1, 2, 3 a 4). Bydd mwy o fanylion i gynorthwyo rhieni sy'n cyflwyno cais am le mewn ysgol wrth ddewis ysgol i'w plentyn yn y 'Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni 2022/2023' a fydd ar gael i rieni ym mis Hydref 2021, cyn y dyddiad cyflwyno cais. Bydd y llawlyfr yn cynnwys gwybodaeth bwysig am ysgolion yn y Fwrdeistref Sirol gan gynnwys eu niferoedd derbyn, y dalgylchoedd maent yn eu gwasanaethu ynghyd â mapiau dalgylchoedd a threfniadau eu hysgolion partner. Mae'r llawlyfr hefyd yn cynnwys y trefniadau derbyn cyhoeddedig ar gyfer ysgolion unigol a gynorthwyir yn wirfoddol (h.y. ysgolion ffydd). O ran hyn, mae'r 'Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni 2022/2023' yn rhan annatod o'r wybodaeth sydd ar gael i rieni am dderbyniadau ysgolion.