Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Derbyn i ddosbarthiadau meithrin mewn ysgolion cynradd cymunedol ac ysgolion 'pob oed' i blant 3 i 16 oed/3 i 18 oed.

Y cyngor yw'r awdurdod derbyn ar gyfer pob dosbarth meithrin mewn ysgolion cynradd cymunedol a 'phob oed' i blant 3 i 16 oed/3 i 18 oed.

Gall plentyn gael lle rhan-amser mewn dosbarth meithrin o ddechrau'r tymor sy'n dilyn ei drydydd pen-blwydd. Bydd gofyn i rieni/ofalwyr y mae angen lle ar eu plentyn mewn dosbarth meithrin gyflwyno cais am le. Mae ffurflenni cais ar gael gan y Swyddog Derbyniadau, Tîm Cefnogi Ysgolion a Theuluoedd, Canolfan Ddinesig Port Talbot, Port Talbot SA13 1PJ, a dylid eu dychwelyd i’r un cyfeiriad ar ôl eu cwblhau.
Gall rhieni/gofalwyr wneud cais am le yn ysgol y dalgylch neu fynegi dewis am le mewn ysgol arall.

Gall plentyn gael ei dderbyn i ddosbarth meithrin cyn dechrau'r tymor sy'n dilyn ei drydydd pen-blwydd dim ond drwy ymgynghori â'r Swyddog Derbyn.

Gall nifer y lleoedd meithrin sydd ar gael fod yn wahanol i nifer derbyn grwpiau blwyddyn amser llawn mewn ysgol (Derbyn).

I blant y mae ganddynt ddatganiad o anghenion addysgol arbennig sy'n nodi addysg feithrin brif ffrwd mewn ysgol gymunedol, gwarentir lle iddynt yn y lleoliad hwnnw. Mae dyletswydd ar ysgolion i dderbyn plant â Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig sydd wedi cael eu rhoi yn yr ysgol gan yr ALl a chaiff y disgyblion hyn eu cyfrif tuag at nifer y disgyblion i’w derbyn oni bai fod eu lleoliad mewn Canolfan Cefnogi Dysgu sydd mewn ysgol.

Bydd y cyngor yn ystyried pob cais unigol a dderbynnir. Os yw nifer y ceisiadau'n fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, caiff lleoedd eu dyrannu yn ôl y meini prawf gorymgeisio isod, a restrir yn nhrefn eu blaenoriaeth.

  • . Meini Prawf Gorymgeisio

    a) Plant sy'n derbyn gofal* neu a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru, yn unol ag adran 74 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu yn Lloegr yn unol ag adran 22 Deddf Plant 1989.

    b) Plant sy'n byw yn nalgylch y dosbarth meithrin y cyflwynir cais amdano.

    c) Plant y mae ganddynt frawd neu chwaer hyn a fydd ar gofrestr yr ysgol lle mae'r dosbarth meithrin hwn pan gânt eu derbyn. Diffinnir "brawd neu chwaer" fel brawd neu chwaer lawn, hanner brawd neu chwaer (h.y. un rhiant a rennir), llysfrodyr neu lyschwiorydd (h.y. plentyn person sy'n cyd-fyw â'r rhiant), brawd neu chwaer maeth neu a fabwysiadwyd. Ym mhob achos, ar adeg cyflwyno'r cais rhaid i'r brawd neu'r chwaer fyw yn yr un cyfeiriad â'r plentyn neu'r person ifanc. Dylid nodi perthynas unrhyw frodyr neu chwiorydd yn glir yn y cais. Yn achos genedigaethau lluosog, os nad yw'n bosib cynnig lle i bob plentyn yn y dosbarth meithrin, bydd gofyn i'r rhieni benderfynu pa blentyn a ddylai dderbyn lle'n gyntaf neu a ydynt yn dymuno ystyried lleoliad arall i'w holl blant.

Os oes hawl gyfartal gan blant gael lle yn y meithrin yn y categorïau a) i c) uchod, rhoddir blaenoriaeth i'r plentyn sy'n byw agosaf. Caiff hyn ei fesur gan y llwybr cerdded/teithio byrraf rhwng y cartref a'r ysgol. Mae'r cyngor yn defnyddio System Gwybodaeth Ddaearyddol i gyfrifo'r pellter byrraf.

Ym mhob achos, bydd rhaid darparu tystiolaeth o gyfeiriad preswyl parhaol y disgybl ar adeg gwneud y cais.

Unwaith bydd cynnig o le mewn ysgol wedi'i wneud, bydd y cyngor ond yn tynnu'r cynnig hwnnw yn ôl pan fydd lle wedi'i gynnig ar sail cais twyllodrus neu fwriadol gamarweiniol gan riant (er enghraifft, honiad anwir am breswylio mewn dalgylch) sy'n gwadu cais i blentyn gyda chais cryfach. Ni fydd lle mewn ysgol yn cael ei dynnu yn ôl unwaith bydd plentyn neu berson ifanc wedi dechrau yn yr ysgol, ac eithrio pan fydd lle wedi'i gael drwy dwyll. Wrth benderfynu tynnu'r lle yn ôl, bydd cyfnod y plentyn hwnnw yn yr ysgol yn cael ei ystyried.

Pan fydd y lle'n cael ei dynnu yn ôl oherwydd gwybodaeth gamarweiniol, bydd y cais yn cael ei ystyried o'r newydd, a bydd hawl apelio'n cael ei gynnig os caiff lle ei wrthod.

Ystyrir mai cyfeiriad y cartref yw prif breswylfa'r plentyn a'r rhieni ar y dyddiad cyhoeddedig, h.y. lle maent yn byw fel arfer ac yn rheolaidd. Os yw plentyn yn byw gyda ffrindiau neu berthnasau (am resymau eraill ar wahân i drefniadau maethu), ni chaiff cyfeiriad y ffrindiau na'r perthnasau ei ystyried o ran cais am dderbyn i ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Pan fo rhieni'n rhannu cyfrifoldeb am blentyn, ac mae'r plentyn yn byw gyda'r ddau riant yn eu tro am ran o'r wythnos ysgol, yna ystyrir mai cyfeiriad y cartref yw'r cyfeiriad lle mae'r plentyn yn byw am y rhan fwyaf o'r wythnos e.e. 3 o 5 niwrnod. Bydd gofyn i rieni ddarparu tystiolaeth ddogfennol i gefnogi'r cyfeiriad y maent am iddo gael ei ystyried at ddibenion dyrannu.

Ni roddir ystyriaeth i'r ysgol gynradd y mae'r plentyn yn debygol o fynd iddi yn ddiweddarach neu'r cyfnod y mae'r ysgol wedi gwybod am fwriad y rhieni i wneud cais am le yn yr ysgol.

Dim ond ceisiadau a dderbynnir erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig ar gyfer derbyn ffurflenni cais fydd yn cael eu prosesu yn rownd gyntaf dyrannu lleoedd. Bydd ffurflenni cais a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried fel ceisiadau hwyr. Caiff y rhain eu hystyried yn wythnosol unwaith bydd y dyraniad cychwynnol wedi'i gwblhau a bydd lleoedd yn cael eu dyrannu yn unol ag argaeledd. Gan fod addysg feithrin yn ddarpariaeth anstatudol, nid oes gan rieni hawl apelio statudol. Os nad ydynt yn llwyddo i gael lle mewn dosbarth meithrin, bydd plant yn cael cynnig lle o fewn dwy filltir o'u lleoliad preswyl, lle bynnag y bo hynny'n bosib.

Nid yw'r ffaith fod plentyn yn mynd i ddosbarth meithrin yn rhoi hawl awtomatig iddo gael lle yn nosbarth derbyn yr un ysgol. Bydd rhaid cyflwyno cais ar wahân i blentyn gael ei dderbyn i ddosbarth derbyn yr ysgol y mae'r rhiant am i'w blentyn ei mynychu.

Er ei fod yn ddarpariaeth polisi ar wahân, mae'r cyngor yn cydnabod y gydberthynas rhwng derbyn a chludiant o'r cartref i'r ysgol, ac yn cynghori rhieni i ddarllen polisi teithio o’r cartref i’r ysgol y cyngor wrth ymgeisio am le mewn ysgol i'w plentyn.

* Plentyn sy'n derbyn gofal yw plentyn y mae'r awdurdod lleol yn gofalu amdano/amdani o dan Adran 74 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu o dan Adran 22(1) Deddf Plant 1989 ar yr adeg y gwneir cais i ysgol ac y mae'r awdurdod wedi cadarnhau y bydd yn dal i dderbyn gofal ar yr adeg y caiff ei d(d)erbyn i'r ysgol. Plant a oedd yn derbyn gofal: plant a oedd yn derbyn gofal nad ydynt yn derbyn gofal mwyach am iddynt gael eu mabwysiadu neu ddod yn destun gorchymyn preswyl neu orchymyn gwarcheidiaeth arbennig yn syth ar ôl derbyn gofal.