Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Dogfen

Hysbysiad Cychwyn

NEATH PORT TALBOT COUNTY BOROUGH COUNCIL
CYNGOR BWRDEISTREF SIROL CASTELL-NEDD PORT TALBOT
DEDDF CYNRYCHIOLAETH Y BOBL 1983
Adrannau 18A; 18B; ac 18C
ADOLYGIAD O ARDALOEDD PLEIDLEISIO, LLEOEDD PLEIDLEISIO
A GORSAFOEDD PLEIDLEISIO

HYSBYSIR drwy hyn bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ar fin cychwyn adolygiad o Ardaloedd Pleidleisio, Lleoedd Pleidleisio a Gorsafoedd Pleidleisio o fewn ardal yr awdurdod lleol ac Etholaethau Seneddol Aberafan a Chastell-nedd.

Gellir archwilio dogfennaeth mewn perthynas â'r adolygiad hwn yn swyddfeydd y Prif Weithredwr, y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot yn ystod oriau swyddfa arferol, neu ar wefan y Cyngor yn www.npt.gov.uk/elections

Bydd yr Adolygiad yn cynnwys sylw gan y Swyddog Canlyniadau ar Orsafoedd Pleidleisio arfaethedig, ac mae'r Cyngor yn gwahodd sylwadau gan etholwyr o fewn yr ardal uchod.

Byddai'r Cyngor hefyd yn croesawu sylwadau gan unrhyw gorff neu berson sydd ag arbenigedd mewn mynediad i bobl anabl, neu i wneud sylwadau ar gynigion y Cyngor, cyflwyniadau'r Swyddog Canlyniadau neu unrhyw fater arall sy'n ymwneud â'r adolygiad. Dylai unrhyw gorff neu berson sy'n cynnig sylwadau o'r fath nodi lleoedd eraill y gellid eu defnyddio fel Lleoedd Pleidleisio neu Orsafoedd Pleidleisio.

Mae'n rhaid anfon sylwadau'n ysgrifenedig at y Prif Weithredwr a gellir eu hanfon drwy e-bost at elections@npt.gov.uk. Mae'n rhaid derbyn yr holl gyflwyniadau erbyn 15 Mawrth 2019.

S.J. PHILLIPS
Prif Weithredwr
Y Ganolfan Ddinesig,
PORT TALBOT
SA13 1PJ
14 Ionawr, 2019