Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Cyflwyniad

Mae'r adroddiad blynyddol hwn, a gyhoeddwyd yn unol â Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011, yn darparu trosolwg o'n gwaith yn datblygu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024, gan fodloni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Mae'r adroddiad blynyddol hwn hefyd yn nodi cynnydd yn erbyn y chwe amcan cydraddoldeb a'r camau gweithredu cysylltiedig a nodir yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill i 31 Mawrth 2021.

Dechreuon ni adolygu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn ystod 2019-2020 gan ragweld y byddai'n cael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2020 - fodd bynnag, fe wnaeth amgylchiadau fynd yn drech na ni a chyhoeddwyd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol o'r diwedd ym mis Hydref 2020 gyda chamau gweithredu i gyflawni'r amcanion a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2021.

Adroddir ar gynnydd yn erbyn ein hamcanion cydraddoldeb a chamau gweithredu cysylltiedig naill ai ar sail blwyddyn lawn neu am y cyfnod 1 Ionawr - 31 Mawrth 2021, a nodir yn unol â hynny.