Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Dewis Rhif 4 – Y DEWIS A FFAFRIR – cysoni’r gylchfan – dileu’r ganolfan iechyd

Mae Dewis 4 yn dileu’r ganolfan iechyd er mwyn galluogi cyfle i ddigwydd i wneud gwelliannau i ffordd fynediad yr orsaf dân, tro’r Albion a mynediad i’r llyfrgell. Byddai strwythurau presennol y bont dros y rheilffordd ar Heol Maesteg yn cael eu dileu er mwyn galluogi creu pwynt croesi heb ei reoli ar yr un lefel wrth ochr y gylchfan, er mwyn cynnal cyswllt llwybr seiclo Dyffryn Afan.

Mae’r dewis hwn yn darparu cyfleoedd i wneud gwelliannau uwch o’i gymharu â Dewisiadau 1, 2 a 3 o ran unioni’r briffordd yn llorweddol a fertigol. Byddai dileu’r ganolfan iechyd yn galluogi gwella’r unioni llorweddol ac yn gwella trefniant y cyffyrdd. Byddai cysoni’r brif ffordd yn darparu ar gyfer cylchfan yn hytrach na chyffordd-T. Byddai hyn yn gwella llif y traffig ac yn ail-gysoni’r drafnidiaeth y briffordd oddi wrth yr eiddo ar Heol yr Orsaf, ble gallai preswylwyr elwa o gael llai o sŵn ac allyriadau gan gerbydau. Byddai Heol yr Orsaf yn dod yn heol unffordd ar y pwynt hwn, i gyfeiriad blaen y dyffryn, gan roi cyfle i greu rhywfaint o barcio ar y stryd.

Fel gyda Dewis 3, byddai hyn yn ddibynnol ar adborth gan y gymuned, gyda chyfle i gau Heol yr Orsaf i drafnidiaeth sy’n mynd drwodd, gan alw am gaffael tir i greu man i droi yn y pen.

Lawrlwytho

  • Dewis Rhif 4 – Y DEWIS A FFAFRIR – cysoni’r gylchfan – dileu’r ganolfan iechyd (PDF 3.11 MB)

    m.Id: 31880
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Dewis Rhif 4 – Y DEWIS A FFAFRIR – cysoni’r gylchfan – dileu’r ganolfan iechyd
    mSize: 3.11 MB
    mType: pdf
    m.Url: /media/16903/c20910-ga-option-4.pdf