Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Hysbysiad o Benderfyniad - Cynnig i sefydlu ysgol gynradd Gymraeg newydd yn Nheras Sant Ioan

Mae penderfynu ar y cynnig hwn yn cydymffurfio â gofynion statudol o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a Chôd Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru.

Mae'r cynnig hwn wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol a ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod rhybudd statudol.

Ar ôl ystyried y cynnig, cyngor gan Estyn a'r dystiolaeth ategol gan swyddogion y cyngor yn ofalus, gwnaed penderfyniad ar 23 Medi 2022 i gymeradwyo rhoi'r cynnig ar waith, yn effeithiol o 1 Ionawr 2023. Bydd y penderfyniad yn galluogi'r cyngor i gydymffurfio â'r gofynion deddfwriaethol sy'n angenrheidiol i hwyluso rhoi'r cynnig ar waith a fydd yn cynorthwyo'r cyngor wrth gyflawni'i ddyletswydd i sicrhau addysg effeithlon yn ei ardal.

Wrth ddod i'r penderfyniad hwn, rhoddwyd ystyriaeth i'r canlynol:

Ansawdd a safonau addysg

Mae'r cyngor yn gyfrifol am hyrwyddo safonau addysg uchel ac am ddarparu addysg gynradd ac uwchradd effeithlon.  Mae cael yr ysgolion iawn yn y mannau iawn a sicrhau eu bod yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif yn her a wynebir gan y cyngor. 

Bydd y cynnig hwn yn sefydlu ysgol gynradd gychwynnol Gymraeg mewn adeilad lle mae Ysgol Gynradd Abbey ar hyn o bryd yn Nheras Sant Ioan, Mynachlog Nedd, Castell-nedd SA10 7ND sydd mewn lle amlwg yn agos i'r A4230 rhwng Mynachlog Nedd a Sgiwen.

Bydd yr ysgol newydd yn cynnig y cyfle i ddisgyblion gael mynediad at Addysg Gymraeg yn eu hardal leol yn hytrach na theithio i Ysgol Gynradd Gymraeg Castell-nedd neu Ysgol Gynradd Gymraeg Tyle’r Ynn. Rhagwelir y bydd hyn yn atyniadol i lawer o rieni yn yr ardal ac y bydd diddordeb yn y Gymraeg felly'n tyfu.  Bydd hefyd yn hwyluso cynnydd tuag at dargedau Cynllun y Gymraeg mewn Addysg sef cynyddu nifer y plant Blwyddyn 1 sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i 31% (460 o ddisgyblion) erbyn 2032.

Mae Estyn hefyd wedi darparu cyngor a sylwadau.

Yr angen am leoedd a'r effaith ar hygyrchedd ysgolion

Bydd yr ysgol newydd yn darparu ar gyfer hyd at 210 o ddisgyblion oed cynradd amser llawn a 45 o ddisgyblion oed meithrin rhan-amser erbyn mis Medi 2029. Bydd hyn yn darparu digon o le ar gyfer cyfanswm niferoedd y disgyblion a ragwelir, gan gynnwys twf posib ym mhoblogaeth y disgyblion.

Bydd yn agor i ddisgyblion meithrin rhan-amser ym mis Ionawr 2023 a disgwylir i'r garfan gyntaf o ddisgyblion dosbarth derbyn amser llawn fynd i'r ysgol newydd o fis Medi 2023.

Bydd yr ysgol Gymraeg newydd yn gwasanaethu dalgylchoedd cyfunol ysgolion cynradd Crymlyn, Coedffranc ac Abbey, gan ei gwneud yn haws i rieni ddeall eu dewisiadau cyfrwng Cymraeg a Saesneg yn hawdd, ac mae'n newid i'r sefyllfa gyfredol lle mae disgyblion yn yr ardal hon naill ai'n mynychu Ysgol Gynradd Gymraeg Castell-nedd neu Ysgol Gynradd Gymraeg Tyle’r Ynn ar gyfer eu haddysg Gymraeg.

Rhagwelir y bydd y rhan fwyaf o ddisgyblion sy'n mynychu’r ysgol yn byw o fewn radiws o ddwy filltir i'r ysgol newydd arfaethedig, gan sicrhau bod addysg Gymraeg ar gael yn eu hardal leol

Adnoddau addysg a goblygiadau ariannol eraill

Eir i gostau refeniw rheolaidd ychwanegol. Bydd modd talu'r rhain drwy'r adnoddau sydd gennym eisoes o fewn y flwyddyn ariannol gyfredol. Bydd angen cynnwys costau refeniw rheolaidd ar gyfer blynyddoedd ariannol y dyfodol yn y gwaith sy'n gysylltiedig â datblygu cynllun ariannol tymor canolog gan nad oes darpariaeth ar hyn o bryd i agor ysgolion ychwanegol o fewn swm y gyllideb ysgolion dirprwyedig. Felly, mae’r costau refeniw ar gyfer ysgol gychwynnol newydd yn bwysau ar adnoddau'r cyngor a bydd angen sicrhau cyllid  ychwanegol i weithredu'r ysgol yn llwyddiannus.

Dosberthir cyllid refeniw ar gyfer ysgolion yn flynyddol drwy gyfrwng fformiwla gymeradwy.  Mae hyn yn sicrhau bod cyfranddaliadau cyllidebau ysgolion yn cael eu dyrannu ar sail syml, wrthrychol a mesuradwy.

Cynhyrchir y rhan fwyaf o ddyraniad y gyllideb refeniw i ysgolion gan niferoedd disgyblion. Felly bydd cyllideb arfaethedig yr ysgol newydd yn seiliedig yn bennaf ar y gofrestr disgyblion, ac wrth i'r niferoedd dyfu, bydd y gyllideb hefyd yn tyfu.

Effaith Gymunedol

Mae'r cynnig ar gyfer yr ysgol newydd hefyd yn cynnwys y bwriad i gynnwys lleoliad gofal plant cyfrwng Cymraeg newydd ar safle'r ysgol, i gynnig gofal cyn ysgol ac ar ddechrau a diwedd dydd i blant drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg agosaf ychydig bellter i ffwrdd yng Nghastell-nedd, a byddai lleoliad newydd yn yr ysgol newydd arfaethedig yn sicrhau bod teuluoedd o'r ardal yn cael cynnig mwy o ddewis a hyblygrwydd, a bydd hefyd yn cefnogi rhieni i ddewis ysgol Gymraeg ar gyfer eu plant, yn ogystal â helpu i ddatblygu sgiliau siarad a gwrando Cymraeg cynnar plant cyn oed ysgol.

Dylai'r cynnig hefyd ddarparu cyfleoedd ar gyfer defnydd cymunedol yn ardal Mynachlog Nedd, ac yn ogystal, gellir ei weld fel cyfle i gefnogi, gwella ac ehangu'r ddarpariaeth Gymraeg ymhellach yn y gymuned leol. 

Asesiad Effaith y Gymraeg

Mae Asesiad Effaith y Gymraeg wedi'i ddatblygu sy'n dangos yr effeithiau cadarnhaol niferus ar y Gymraeg. Bydd y cynnig yn cefnogi cynnydd y cyngor tuag at dargedau Cynllun y Gymraeg mewn Addysg sef cynyddu nifer y plant Blwyddyn 1 sy'n cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg i 31% (460 o ddisgyblion) erbyn 2032, a bydd hefyd yn darparu'r cyfle i gynyddu niferoedd y disgyblion oed cynradd sy'n manteisio ar y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn eu hardal leol. 

Dylai'r cynnig ganiatáu twf pellach yn Ysgol Gynradd Gymraeg Castell-nedd ac Ysgol Gynradd Gymraeg Tyle’r Ynn o'u hardaloedd lleol ar yr un pryd a chreu lleoedd ysgol i boblogaeth gynyddol yn ardaloedd Mynachlog Nedd, Sgiwen a Chrymlyn.

Yn ogystal, dylai darpariaeth gofal plant ar y safle gefnogi rhieni ac annog y rheini nad ydynt yn siarad Cymraeg i ddewis ysgol Gymraeg ar gyfer eu plant, gan eu helpu i ddatblygu sgiliau siarad a gwrando Cymraeg plant cyn oed ysgol.

Dogfennaeth