Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Telerau ac Amodau

  1. ​Yr Hyrwyddwr yw: Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Canolfan Ddinesig Port Talbot, SA13 1PJ (y “Cyngor”)

  2. Enw’r gystadleuaeth yw: Cystadleuaeth Byddwch yn Rhan o’n Hanes.

  3. Mae’r Gystadleuaeth Byddwch yn Rhan o’n Hanes yn gystadleuaeth sy’n annog pobl ifanc i greu cartŵn, collage, croesbwyth, llun, dyluniad graffig, paentiad, print neu fap darluniadol (neu unrhyw ffurf ar gelfyddyd briodol arall) i ddathlu ein treftadaeth a dangos yr hyn y mae ein treftadaeth yn ei olygu iddynt.  Rhaid i bob darn o waith a gyflwynir fod o Faint A3 – 297mm x 420mm naill ai ar i fyny neu ar draws.  Gall ymgeiswyr gyfeirio at Linell Amser Ein Treftadaeth y Cyngor os dymunant (gweler Atodiad 2).  Rhaid i ymgeiswyr roi Enw neu Deitl i’r darn maent yn ei greu. Bydd y ceisiadau’n cael eu beirniadu a’r darn buddugol yn cael ei arddangos yn Studio 40, 40 Heol y Frenhines, Castell-nedd drwy gydol Gŵyl Gelf a Llên Castell-nedd, a gynhelir rhwng 18 a 22 Hydref 2023. Bydd y darn buddugol yn cael ei ddigidoleiddio ac yn ymddangos ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ac ar hysbysfwrdd digidol Llyfrgell Castell-nedd.

Cymhwysedd

  1. Mae’r gystadleuaeth ar agor i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed yn unig, sydd naill ai’n byw, yn astudio neu’n gweithio yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

  2. Rhaid i ymgeiswyr sydd o dan 18 gael cydsyniad rhiant neu warcheidwad yn gyntaf cyn ymgeisio am y gystadleuaeth. Bydd gofyn i bob ymgeisydd sydd o dan 18 roi manylion cyswllt y rhiant/gwarcheidwad cydsyniol i’r Cyngor er mwyn i’r Cyngor wirio eu cydsyniad os oes angen.

  3. Nid yw rhai sy’n gweithio i’r Cyngor na rhai sydd wedi cymryd rhan mewn datblygu Strategaeth Dreftadaeth y Cyngor mewn unrhyw ffordd yn gymwys i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.

  4. Ar gyfer y gystadleuaeth, ni fydd y Cyngor yn derbyn darnau:
  • a gynhyrchwyd yn awtomatig gan gyfrifiadur neu a grëwyd gan ddeallusrwydd artiffisial (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i sgwrsfotiaid megis ChatGPT neu raglenni meddalwedd tebyg);
  • a gwblhawyd gan drydydd parti neu mewn swmp;
  • sy’n annarllenadwy, sydd wedi cael eu newid, eu hail-lunio neu eu ffugio neu lle bu ymyrryd â nhw;
  • wedi’u llungopïo nad ydynt y darnau gwreiddiol; neu
  • nad ydynt o’r maint cywir a nodwyd (A3)
  1. Dim ond un cais ar gyfer y gystadleuaeth a ganiateir gan bob person.

  2. Ni dderbynnir cyflwyniadau ar y cyd rhwng ymgeiswyr cymwys.

Sut i Ymgeisio

  1. Bydd y gystadleuaeth ar agor rhwng 09.00 ar 4 Medi 2023 (y “Dyddiad Agor”) a 17.30 ar 4 Hydref 2023 (y “Dyddiad Cau”).

  2. Rhaid i bob cais ar gyfer y gystadleuaeth ddod i law’r Cyngor erbyn 17.30 fan bellaf ar y Dyddiad Cau. Bydd unrhyw gais ar gyfer y gystadleuaeth a dderbynnir ar ôl y Dyddiad Cau wedi’i anghymwyso’n awtomatig.

  3. Mae’n rhad ac am ddim i gystadlu ac nid oes angen prynu dim byd.

  4. Er mwyn cymryd rhan yn y gystadleuaeth, rhaid:   

  • Dod â’r cartŵn, collage, croesbwyth, llun, dyluniad graffig, paentiad, print neu fap darluniadol (neu unrhyw ffurf ar gelfyddyd briodol arall) a gwblhawyd gennych, wedi’i farcio â’ch Cod Post, Oed ac enw/teitl eich darn (ar gefn eich darn) i unrhyw lyfrgell a weithredir gan y Cyngor (gweler Llyfrgelloedd a Reolir gan Gastell-nedd Port Talbot i ddod o hyd i’ch cangen agosaf). Rhaid i bob darn fod o Faint A3 – 297mm x 420mm ar i fyny neu ar draws.  Bydd blwch ar gael ym mhob cangen i chi gyflwyno eich cais.

  • Cwblhewch Ffurflen Gais (gallwch argraffu ffurflen gais o wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a chynnwys eich oed, enw, cod post a chyfeiriad e-bost neu rif ffôn. Os nad ydych yn byw yng Nghastell-nedd Port Talbot ond eich bod yn gweithio neu'n astudio mewn sefydliad yng Nghastell-nedd Port Talbot, defnyddiwch god post eich sefydliad perthnasol yn lle. Ar eich Ffurflen Gais bydd angen i chi hefyd gynnwys ar y disgrifiad o’ch darn gan gynnwys crynodeb o’r hyn a’ch ysbrydolodd i’w greu.

  1. Ni fydd y Cyngor yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gais sy’n mynd ar goll, sy’n cael ei gamosod, ei ddifrodi neu ei dal yn ôl wrth gludo, waeth beth fo’r achos, gan gynnwys, er enghraifft, o ganlyniad i unrhyw fethiant gyda’r post, methiant offer, diffyg technegol, methiant system, lloeren, rhwydwaith, gweinydd, caledwedd neu feddalwedd cyfrifiadurol o unrhyw fath. Nid yw prawf bod cais wedi’i anfon yn brawf ei fod wedi cyrraedd.

  2. Gallwn wrthod unrhyw gais sy’n anghyflawn, annealladwy, annarllenadwy, wedi’i ddifwyno neu sy’n defnyddio copi o ffurflen swyddogol. Rydym hefyd yn cadw’r hawl i wrthod ceisiadau sy’n anghyfreithlon, hiliol, ymfflamychol, difrïol neu yr ydym yn eu hystyried eu bod yn niweidiol fel arall. Rydym hefyd yn cadw’r hawl i anghymwyso unrhyw ymgeisydd sy’n defnyddio enwau lluosog a/neu gyfeiriadau e-bost lluosog. Os ydych yn defnyddio eich cyfrifiadur gwaith, efallai y bydd angen caniatâd eich cyflogwr arnoch cyn ymgeisio.

  3. Wrth gyflwyno cais ar gyfer y gystadleuaeth, rydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan y telerau ac amodau hyn.

Y Wobr

  1. Dim ond un cais yn unig fydd yn fuddugol yn y gystadleuaeth. Gwobr yr ymgeisydd buddugol fydd defnyddio ei ddarn ar gyfer Gŵyl Gelf a Llên Castell-nedd 2023, a’i arddangos drwy gydol yr Ŵyl – rhwng 18 a 22 o fis Hydref 2023. Bydd hefyd yn cael ei ddigidoleiddio ac yn ymddangos ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ac ar hysbysfwrdd digidol Llyfrgell Castell-nedd. Bydd yr enillydd hefyd yn ennill Aelodaeth Teulu i Cadw am flwyddyn.

  2. Nid oes unrhyw wobr ariannol ar gael. Nid yw’r wobr yn agored i drafodaeth nac yn drosglwyddadwy. Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i amnewid y wobr am wobr o werth cyfatebol neu uwch os bydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y Cyngor yn ei gwneud yn angenrheidiol gwneud hynny.

  3. Efallai bydd y cais buddugol yn cael ei ddefnyddio mewn cyhoeddusrwydd a chyfryngau pellach gan y Cyngor yn unol ag amod 28 isod.

Yr Enillydd

  1. Bydd y ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth yn cael eu beirniadu gan banel sy’n cynnwys aelodau o Fwrdd Prosiect Treftadaeth Castell-nedd Port Talbot a chynrychiolwyr eraill o'r Cyngor. Bydd penderfyniad y panel beirniaid yn derfynol ac ni fydd unrhyw drafodaeth nac ateb unrhyw ohebiaeth.

  2. Byddwn yn hysbysu'r enillydd ar 11 Hydref 2023 drwy e-bost/ffonio gan ddefnyddio’r e-bost/rhif ffôn a roddwyd gyda’r cais buddugol.

  3. Os na fydd yr enillydd yn ymateb i’r Cyngor o fewn 2 ddiwrnod o gael ei hysbysu gan y Cyngor, yna bydd gwobr yr ymgeisydd hwnnw yn cael ei fforffedu ac mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i ddewis enillydd arall yn unol â'r broses a ddisgrifir uchod.

  4. Bydd y Cyngor yn cyhoeddi enw enillydd y gystadleuaeth a delwedd o’r darn buddugol ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn syth ar ôl derbyn ymateb cadarnhaol gan yr enillydd. Os yw’r ymgeisydd buddugol o dan 18 oed, bydd y Cyngor ond yn cyhoeddi ei enw cyntaf. Os ydych yn gwrthwynebu cyhoeddi, neu i’r cyhoedd allu gweld, eich enw neu unrhyw ran ohono a/neu eich darn buddugol, cysylltwch â’r Cyngor cyn gynted ag y bo modd.

    Diogelu Data

  5. Bydd y data personol a ddarperir gan ymgeiswyr yn cael ei ddefnyddio yn unol â'n Hysbysiad Preifatrwydd. Dylech ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd ynghyd â’r telerau ac amodau hyn. Gallwch ddod o hyd i’n Hysbysiad Preifatrwydd islaw’r telerau ac amodau hyn.

  6. Mae gan bob ymgeisydd hawl i’w manylion gael eu dileu o’n cofnodion drwy gysylltu â ni. Os caiff y manylion eu dileu cyn i’r gystadleuaeth ddod i ben a’r/neu’r gwobrwyo ni fydd yr ymgeisydd bellach yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth. Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i gyhoeddi enw'r enillwyr yn unol ag amod 23 uchod.

  7. Bydd pob cais a data personol yr ymgeiswyr a gesglir mewn perthynas â’r gystadleuaeth hon yn cael eu dinistrio’n ddiogel yn syth ar ôl cyhoeddi’r cais buddugol. Os hoffech dderbyn eich cais yn ôl, nodwch hyn ar eich cais pan fyddwch yn ei gyflwyno.

    Eiddo Deallusol

  8. Trwy gyflwyno eich cais ar gyfer y gystadleuaeth ac unrhyw ddeunydd cysylltiedig, rydych yn cytuno:
  • aseinio i’r Cyngor eich holl hawliau eiddo deallusol gyda gwarant teitl llawn; ac yn
  • ildio pob hawl moesol,

ac i’ch cais ar gyfer y gystadleuaeth ac sy’n codi fel arall mewn cysylltiad â’ch cais y gallai bod gennych hawl iddo yn awr neu ar unrhyw adeg yn y dyfodol o dan Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd ac o dan bob deddfwriaeth debyg sydd mewn grym o bryd i’w gilydd unrhyw le yn y byd.

  1. Rydych yn cytuno y gall y Cyngor, ond nid yw'n ofynnol iddo, darparu mynediad at eich cais ar ei wefan,  drwy ei arddangos yng Nghanolfan Gelf Gyfoes  Studio 40, 40 Heol y Frenhines, Castell-nedd SA11 1DL ac mewn unrhyw gyhoeddiadau, arddangosfeydd a/neu gyfryngau pellach eraill, bod y rhain yn hysbys nawr neu’n bodoli yn y dyfodol, ac mewn cysylltiad ag unrhyw gyhoeddusrwydd o’r gystadleuaeth. Rydych yn cytuno i roi trwydded ddi-alw’n ôl, fyd-eang, anghyfyngedig i’r Cyngor, am gyfnod llawn unrhyw hawliau eiddo deallusol yn y cais ar gyfer y gystadleuaeth ac unrhyw ddeunyddiau cysylltiedig, i ddefnyddio, arddangos, cyhoeddi, trosglwyddo, copïo, golygu, newid, storio, ail-fformatio ac is-drwyddedu’r cais ar gyfer y gystadleuaeth ac unrhyw ddeunyddiau cysylltiedig at y dibenion hynny.

Atebolrwydd

  1. I’r graddau y’i caniateir gan y gyfraith, ni fydd y Cyngor, ei asiantau na’i ddosbarthwyr o dan unrhyw amgylchiadau yn gyfrifol nac yn atebol am ddigolledu’r enillydd nac yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled, difrod, anaf personol neu farwolaeth sy’n digwydd o ganlyniad i dderbyn y wobr ac eithrio pan gaiff ei achosi gan esgeuluster y Cyngor, ei asiantau neu ei ddosbarthwyr neu gan ei weithwyr. Nid yw eich hawliau statudol yn cael eu heffeithio.

Cyffredinol

  1.  Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i oedi, dileu, canslo, atal neu ddiwygio’r gystadleuaeth yn ôl ei ddisgresiwn absoliwt.

  2. Ni fydd annilysrwydd neu’r anallu i orfodi unrhyw ddarpariaeth o’r Telerau ac Amodau hyn yn effeithio ar ddilysrwydd neu’r gallu i orfodi unrhyw ddarpariaeth arall. Os penderfynir bod unrhyw ddarpariaeth yn annilys neu fel arall ei bod yn anghyfreithlon neu nad oes modd ei gorfodi, bydd y Telerau ac Amodau hyn fel arall yn parhau mewn grym ac yn cael eu dehongli yn unol â'u telerau fel pe na bai'r ddarpariaeth annilys neu anghyfreithlon wedi'i chynnwys yn hyn.

  3. Os bydd unrhyw reswm dros gredu bod y telerau ac amodau hyn wedi’u torri, gall y Cyngor, yn ôl ei ddisgresiwn llwyr, gadw’r hawl i’ch gwahardd rhag cymryd rhan yn y gystadleuaeth.

  4. Bydd y telerau ac amodau yn cael eu dehongli yn unol â Chyfraith Cymru a Lloegr.

Atodiad 1

Datganiad preifatrwydd

  1. Wrth roi eich gwybodaeth bersonol i ni, rydych drwy hyn yn cydnabod mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r Rheolwr Data ar gyfer yr holl wybodaeth bersonol a ddarperir gennych (at ddibenion Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) a’r Ddeddf Diogelu Data 2018) ac rydych yn cydsynio i'r Cyngor ddefnyddio'ch data personol at y dibenion a nodir ym mharagraff 2 isod.

Gan eich bod yn cydsynio i’r Cyngor ddefnyddio eich data personol, fe’ch cynghorir y gallwch dynnu’n ôl eich cydsynio i’r prosesu hwn ar unrhyw adeg drwy ein hysbysu yn ysgrifenedig  

  1. Caiff y data personol a gasglwn gennych ei ddefnyddio gan y Cyngor (yn unol â chyflawni ei swyddogaethau statudol a busnes amrywiol) at y dibenion canlynol:

    Er mwyn gallu nodi pwy sydd wedi cyflwyno cais a gallu hysbysu’r enillydd.

  1. Fel Rheolwr Data mae’n ofynnol i’r Cyngor o dan GDPR y DU eich hysbysu pa un o “Amodau Prosesu Data” Erthygl 6 GDPR y DU y mae’n dibynnu arnynt i brosesu’ch data personol yn gyfreithlon.  Yn hyn o beth, cynghorwn ein bod yn dibynnu ar amod(au) canlynol Erthygl 6 mewn perthynas â’r data a ddarperir gennych;

“Mae’r gwrthrych data wedi rhoi cydsyniad i brosesu ei (d)data personol at un diben penodol neu fwy.”  (Erthygl 6(1)(a) GDPR y DU).

  1. Ni fyddwn yn rhannu eich data personol gydag unrhyw drydydd parti (h.y. personau/cyrff/endidau y tu allan i’r Cyngor) oni bai ei bod yn ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith.

  2. Bydd y wybodaeth bersonol a gesglir oddi wrthych yn cael ei chadw gan y Cyngor am gyfnod o:

Tan 11/10/2023 pan ddaw'r gystadleuaeth i ben.

  1. Ni fydd y Cyngor yn trosglwyddo unrhyw ran o'ch data personol y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu wlad arall sydd â phenderfyniad digonolrwydd.  Bydd prosesu eich data personol gennym yn digwydd yn y Deyrnas Unedig, yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu mewn gwlad arall sydd â phenderfyniad digonolrwydd.

  2. Ni fydd y Cyngor yn defnyddio'ch data personol at ddibenion gwneud penderfyniadau awtomataidd.

  3. Dylech fod yn ymwybodol bod gan unigolion o dan GDPR y DU yr hawliau canlynol mewn perthynas â’u data personol:
  • Yr hawl i gael mynediad at eu data personol a gedwir gan reolwr data.
  • Yr hawl i gael data sy’n anghywir ei gywiro gan reolwr data.
  • Yr hawl i gael eu data wedi’i ddileu (o dan amgylchiadau cyfyngedig penodol). 
  • Yr hawl i gyfyngu ar brosesu eu data gan reolwr data (o dan amgylchiadau cyfyngedig penodol).
  • Yr hawl i wrthwynebu bod eu data yn cael ei ddefnyddio at ddibenion marchnata uniongyrchol.
  • Yr hawl i gludadwyedd data (h.y. trosglwyddo data yn electronig i reolwr data arall).

Cewch fwy o wybodaeth ar bob un o’r hawliau uchod ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth: www.ico.org.uk.         

  1. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’n defnydd o’ch data personol, os ydych am gael mynediad ato neu am wneud cwyn ynghylch prosesu eich data personol, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data’r Cyngor yng Nghyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr, Y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ.

  2. Os byddwch yn gwneud cais neu gŵyn i Swyddog Diogelu Data’r Cyngor (gweler 9 uchod) a’ch bod yn anfodlon gydag ymateb y Cyngor, mae gennych hawl i gwyno’n uniongyrchol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Cewch fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd a gwybodaeth bellach ynglŷn â’ch hawliau ar wefan y Comisiynydd: www.ico.org.uk.

Atodiad 2

Byddwch yn Rhan o’n Hanes (Llinell Amser Ein Hetifeddiaeth)

Dyddiad Digwyddiad

2300 -800 CC

Adeiladwyd carnedd ar Fynydd March Hywel

1500 CC

Adeiladwyd cylch cerrig Carn Llechard 

800CC- 74OC

Adeiladwyd Gwersyll Cefn yr Argoed

1147

Sefydlwyd Abaty Margam 

1280

Caniatawyd Siarter ar gyfer Ffair gyntaf Castell-nedd

1300 C

Adeiladwyd Eglwys Blwyf Sant Illtud yn wreiddiol

1601

Sefydlwyd Ffermdy Blaengwrach

1776

Adeiladwyd Plas y Gnoll gan Herbert Mackworth

1795

Sefydlwyd Gweithfeydd Haearn Abaty Castell-nedd

1795

Bu J M W Turner yn paentio’r dirwedd o amgylch Aberdulais

1795

Agorwyd Camlas Castell-nedd

1812-1814

Adeiladwyd Plas Rheola

1824

Agorwyd Camlas Tennant 

1825

Agorwyd Camlas Abertawe

1827

Cwblhawyd Traphont Ddŵr Pont Fawr 

1830-1835

Adeiladwyd Castell Margam

1831

Dienyddwyd Dic Penderyn (Richard Lewis)

1838

Adeiladwyd Capel Methodistiaid Calfinaidd Beulah (Groes)

1844

Agorwyd Gweithfeydd Brics a Chrochenwaith Ynysmeudwy

1851

Agorwyd Rheilffordd Cwm Nedd

1854

Gosodwyd Pwll Glo Crimea

1861

Agorwyd tŵr cronni Isambard Kingdom Brunel

1881

Sefydlwyd Undeb Rygbi Cymru (WRU) yng Ngwesty’r Castell, Castell-nedd

1894

Adeiladwyd Dociau newydd ym Mhort Talbot

1901-1905

Adeiladwyd Gwaith Dur Port Talbot

1918- 1922

Adeiladwyd Pentref Llandarcy

1925

Ganwyd Richard Burton 

1943

Ganwyd Max Boyce

1943

Portreadwyd pwll glo Blaendulais yn y ffilm The Silent Village

1951

Ganwyd Bonnie Tyler

1969

Agorwyd Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera

1969

Cyhoeddwyd Song of the Earth (Llyfr olaf Trioleg Mortymer) gan Alexander Cordell, wedi’i ysbrydoli gan yr ardal o amgylch Camlas Castell-nedd

1970

Daeth Mary Hopkin yn ail yng Nghystadleuaeth Eurovision

1972

Agorwyd Amgueddfa Glowyr De Cymru

1996

Agorwyd Canolfan Celfyddydau Pontardawe 

2013

Defnyddiwyd y Tŵr Iorwg wrth ffilmio The Day of the Doctor  (Pennod yn dathlu 50 mlynedd Dr Who)

2014

Rhyddhawyd y ffilm Pride (wedi’i ffilmio ym Manwen)

Mae’r gystadleuaeth yn rhan o Brosiect Treftadaeth Castell-nedd Port Talbot wedi’i gefnogi gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.