Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Arddangosfa Oriel Arwyr teimladwy

Aeth Elizabeth ‘Betsy’ Thomas, nyrs filwrol eofn o Flaendulais, a achubwyd o’r dŵr ar ôl i’w llong drosglwyddo gael ei tharo gan dorpedo, ymlaen i ennill y Groes Goch Frenhinol am ei gwaith o drin milwyr a anafwyd.

Nyrs Elizabeth Thomas (trwy garedigrwydd Jonathan Skidmore o'i lyfr Castell Nedd a Llansawel yn y Rhyfel Byd Cyntaf)

Ond yn drist, yn fuan wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, bu Betsy farw o’r diciâu, y credir iddo gael ei achosi gan yr amser y bu’n ymladd am ei bywyd yn y môr.

Dyma un o blith llu o straeon teimladwy mewn arddangosfa o’r enw Oriel Arwyr sy’n dechrau yng Nghanolfan Siopa Aberafan, Port Talbot.

Mae’n ymwneud â phobl o ardal Castell-nedd Port Talbot, ar faes y gad ac ar y ffrynt gartref fel ei gilydd, a gymerodd ran yn y gwrthdaro enfawr rhwng 1914-19 a ddaethpwyd i’w adnabod fel y ‘Rhyfel Mawr’.

Bu farw naw miliwn o bobl yn yr ymladd.

Ymysg y rhai y rhoddir sylw iddynt mae Rupert Price Hallowes, Rheolwr Cynorthwyol yng Ngwaith Alcam Mansel, Port Talbot, ac arweinydd lleol ar y sgowtiaid, a lwyddodd, wedi iddo ennill y Groes Filwrol am ddewrder, i ennill Croes Victoria nodedig ar ôl ei farwolaeth, ar ôl iddo gael ei saethu’n farwol ym mrwydr Hooge yn 1915, pan ddangosodd ddewrder eithriadol unwaith eto.

Dyfarnwyd Croes Fictoria – gwobr uchaf y DU i gydnabod dewrder – i Allan Leonard Lewis, oedd yn byw yn Stryd Creswell, Castell-nedd, ar ôl ei farw yntau hefyd, mewn ymladd yn Ronssoy ym mis Medi 1918, ac yntau ond yn 23 oed, ble y dangosodd ‘ddihidrwydd i unrhyw berygl’ a ‘dewrder amlwg’.

Mae lluniau dramatig o weithwyr benywaidd yn bennaf (munitionettes) yn Ffowndri  Taylor, Llansawel, ble gwnaed sieliau magnelau, yn dangos sut y chwaraeodd Castell-nedd Port Talbot ei ran ar y ffrynt gartref.

Cynhyrchodd Prydain ei hun bron i bedair miliwn o reifflau, chwarter miliwn o ynnau peiriant, 52,000 o awyrennau, 25,000 o ddarnau o fagnelau a thros 170 miliwn rownd o sieliau magnelau erbyn diwedd y rhyfel. Bu i ddiwydiannau glo, dur ac alcam ardal Castell-nedd Port Talbot gefnogi ymdrech y rhyfel yn enfawr drwy gynhyrchu deunyddiau, arfau rhyfel a glo yn danwydd i longau.

Ac roedd ysbytai lleol fel y Trydydd Ysbyty Milwrol ym Mhenrhiwtyn, Castell-nedd yn derbyn cefnogaeth sawl ysbyty ategol a leolwyd mewn adeiladau sylweddol fel The Laurels, Castell-nedd, neuadd Baglan a Glan-rhyd, Pontardawe.

Gellir gweld Oriel Arwyr, gyda chyllid o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yng Nghanolfan Siopa Aberafan ar ddydd Sadwrn, 29 Hydref.