Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus

Cynllun Llesiant Lleol

Pasiwyd deddf newydd yn 2015 gan Lywodraeth Cymru a elwir Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Noda'r ddeddf bod rhaid sefydlu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. 

Sefydlwyd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot ym mis Mai 2016 i ddod â sefydliadau lleol ynghyd ac atgyfnerthu'r ffordd y maent yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn gwella lles y bobl sy'n byw yn ein bwrdeistref sirol.

Partneriaeth o sefydliadau cyhoeddus a gwirfoddol lleol o ar draws yr ardal yw Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot sy'n cynnwys:

Partneriaid statudol:

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot 
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe 
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru   

Cyfranogwyr gwahoddedig:

  • Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol CNPT
  • Heddlu De Cymru
  • Tai Tarian
  • Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol 
  • Canolfan Byd Gwaith
  • Grŵp Colegau CNPT
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
  • Llywodraeth Cymru
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Cynghorau Tref a Chymuned

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot yn asesu llesiant y bobl sy’n byw yn yr ardal ac yn cynhyrchu cynllun llesiant bob pum mlynedd. Mae trigolion lleol a phartneriaid o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi dod at ei gilydd i ddefnyddio’u gwybodaeth a’u harbenigedd i ddeall Llesiant Economaidd, Cymdeithasol, Amgylcheddol a Diwylliannol Castell-nedd a Phort Talbot er mwyn llywio newid i’r dyfodol.

Asesiad Llesiant Castell-Nedd Port Talbot 2022

Nod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yw crisialu cryfderau ac asedau Castell-nedd Port Talbot, a’r heriau a’r cyfleoedd rydyn ni’n eu hwynebu yn awr ac yn y dyfodol. Mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â materion fel y newid yn yr hinsawdd, tlodi a digartrefedd, gan integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn well, sicrhau swyddi i’r dyfodol ac economi lewyrchus, yn ogystal â gwella iechyd ein hamgylchedd naturiol. Rydyn ni am edrych ar yr holl faterion hyn mewn modd mwy integredig a datblygu cynllun a rennir ar gyfer cydweithio i ymdrin â nhw. Bydd hynny’n ein helpu i greu Castell-nedd Port Talbot lle mae pawb ohonon ni eisiau byw, yn awr ac yn y dyfodol. 

Llawrlwytho

  • Cynllun Llesiant 2023-28 (PDF 1.95 MB)

    m.Id: 35359
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Cynllun Llesiant 2023-28
    mSize: 1.95 MB
    mType: pdf
    m.Url: /media/18617/neath-port-talbot-wellbeing-plan-welsh-final.pdf

  • Cynllun Llesiant ar Dudalen 2023-28 (PDF 252 KB)

    m.Id: 35360
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Cynllun Llesiant ar Dudalen 2023-28
    mSize: 252 KB
    mType: pdf
    m.Url: /media/18618/neath-port-talbot-wellbeing-plan-diagram-welsh-final.pdf

  • Cyngor Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol (PDF 340 KB)

    m.Id: 35361
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Cyngor Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol
    mSize: 340 KB
    mType: pdf
    m.Url: /media/18619/ofgc-advice-to-neath-port-talbot-psb-cymraeg.pdf

Lawrlwytho...
Packaging:  
Complete

Gallwch gael mwy o wybodaeth am Fwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus.  E-bost: psb@npt.gov.uk neu ymwelch â www.nptpsb.org.uk