Datganiad I'r Wasg
-
Yn dilyn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Meifod, mae'r sylw nawr yn troi at ddigwyddiad y flwyddyn nesaf ym Margam04 Mehefin 2024
Cymerodd dros 400 o ddisgyblion o ysgolion Castell-nedd Port Talbot ran yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2024 ym Meifod, a ddaeth i ben yr wythnos diwethaf.
-
Arddangosfa Fawreddog i Goffáu Glaniadau D-Day mewn Canolfan Siopa30 Mai 2024
Mae Canolfan Siopa Aberafan ym Mhort Talbot wedi dadorchuddio arddangosfa “golygfa glan y môr” fawreddog i goffáu glaniadau D-Day yn Normandi yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
-
Kathleen ganmlwydd oed yn cael ei hail fedal am gadw awyrennau Spitfire Prydain yn yr awyr yn ystod y rhyfel30 Mai 2024
Mae menyw 100 oed a ddefnyddiodd ei sgiliau mecanyddol er mwyn helpu i sicrhau bod awyrennau ymladd enwog Prydain, sef y Spitfires, wedi parhau i hedfan yn ystod yr Ail Ryfel Byd wedi cael medal newydd am ei gwaith, yn lle'r un a aeth ar goll flynyddoedd yn ôl.
-
DIGWYDDIAD ARLOESI DIGIDOL YN GOSOD SAFON UCHEL AR GYFER Y DYFODOL28 Mai 2024
Roedd y digwyddiad, lle roedd arbenigwyr yn y diwydiant, darparwyr gwasanaethau yn ogystal â chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn bresennol, wedi amlinellu sut y bydd buddsoddiadau mawr mewn arloesi digidol a gwell cysylltedd yn dod â ffyniant parhaus i ranbarth Bargen Ddinesig Bae Abertawe.
-
Cyfres o ddigwyddiadau galw heibio er mwyn ceisio helpu busnesau canol trefi i ffynnu24 Mai 2024
Bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynnal digwyddiadau galw heibio er mwyn rhoi gwybodaeth werthfawr i fusnesau canol trefi am grantiau, cymorth busnes ac adnoddau eraill i'w helpu i ffynnu.
-
Y Cyngor yn Lansio Cronfa er mwyn Helpu Sefydliadau Cymunedol i Sefydlu Mannau Cynnes23 Mai 2024
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwahodd sefydliadau cymunedol i wneud cais am grant untro o £1500 er mwyn helpu i sefydlu Mannau Croeso Cynnes ar gyfer trigolion sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi â chostau byw o bosibl neu sydd mewn perygl o deimlo'n ynysig.
-
Hysbysiad Cau Ffyrdd – Cwmafan21 Mai 2024
Bydd Depot Road yng Nghwmafan ar gau i'r ddau gyfeiriad am bythefnos yn dechrau ddydd Mawrth 28 Mai. Hefyd, bydd mynediad cyfyngedig i ran ar wahân o Depot Road a Rhes Tŷ'r Owen yn ystod y cyfnod hwn. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn gwneud gwaith hanfodol i gynnal a chadw'r ffyrdd a rhoi wyneb newydd arnynt.
-
Grymuso Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot: Rhaglen Gorwelion yn Arloesi Llwybrau at Gyflogaeth21 Mai 2024
Mae Horizons, rhan o Wasanaeth Ieuenctid Cyflogadwyedd CNPT yn helpu pobl 16-18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant i ennill sgiliau, profiadau a chymwysterau newydd. Gan weithio mewn partneriaeth â phrosiect ‘Down To Earth’, fe drefnodd Gorwelion gwrs yn ddiweddar oedd yn canolbwyntio ar weld pobl ifanc yn datblygu hyder, sgiliau cyfathrebu a sgiliau gwaith a all eu helpu i fynd i mewn i swydd.
-
Digwyddiad Seilwaith Digidol yn Arwain gyda buddsoddiad o £175+ Miliwn i'r Rhanbarth.20 Mai 2024
Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cynnal digwyddiad newydd i arddangos arloesiadau, cyfleoedd a’r buddion digidol sydd ar fin rhoi hwb o £318 miliwn i’r economi leol.
-
Strategaeth Dreftadaeth newydd y Cyngor yn gwarchod a hybu asedau hanesyddol a naturiol unigryw’r ardal17 Mai 2024
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi mabwysiadu Strategaeth Dreftadaeth i sicrhau cadwraeth, gwarchodaeth a chynaliadwyedd ein hamgylchedd hanesyddol a naturiol cyfoethog ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
- Cyntaf⠀
- Blaenorol⠀
- Tudalen 1
- ...
- Tudalen 16
- Tudalen 17 o 55
- Tudalen 18
- ...
- Tudalen 55
- ⠀Nesaf
- ⠀Diwethaf