Datganiad I'r Wasg
-
Diolch i breswylwyr a busnesau Castell-nedd Port Talbot am ffigurau ailgylchu ‘rhagorol’11 Mehefin 2025
Mae diolch yn cael ei estyn i drigolion Castell-nedd Port Talbot am lwyddo i gyflawni cyfradd ailgylchu o 71.4%.
-
Dyn a ddatgelwyd mewn gweithrediad cludo gwastraff yn talu'r pris ar ôl anwybyddu Hysbysiad Cosb Benodedig10 Mehefin 2025
Fe wnaeth dyn a ymatebodd i bostiad ar Facebook yn gofyn ar i gludwyr gwastraff trwyddedig symud gwastraff, ond y canfuwyd – ar ôl gwirio – nad oedd ganddo drwydded i wneud hynny, fethu â thalu Hysbysiad Cosb Benodedig (FPN) a gyhoeddwyd yn ei enw, yn ôl yr hyn a glywodd Ynadon Abertawe.
-
Golau gwyrdd i ddatblygu Aldi a Starbucks newydd yn Aberafan10 Mehefin 2025
Mae cynigion ar gyfer siop fwyd Aldi a siop goffi Starbucks newydd ar dir segur a elwir yn lleol yn Iard Burrows yn Aberafan, Port Talbot, wedi cael eu cymeradwyo.
-
Arweinydd Cyngor yn canmol llwyddiant Eisteddfod yr Urdd 2025 ym Mharc Gwledig Margam05 Mehefin 2025
Mae Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot Council, y Cynghorydd Steve Hunt, wedi canmol llwyddiant Eisteddfod Dur a Mȏr Parc Margam a’r Fro 2025.
-
Dyfarnu £803,000 ar gyfer gwaith dylunio ar bont hanesyddol ym Mhort Talbot05 Mehefin 2025
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cael £803,000 o gyllid gan Lywodraeth y DU i wneud gwaith dylunio manwl ar gyfer prosiect Teithio Llesol arfaethedig a fydd yn cynnwys pont hanesyddol Heol Newbridge ym Mhort Talbot.
-
Rhaglen Haf o Hybu Lles Newydd yn Lansio ym Mharc Gwledig Craig Gwladus04 Mehefin 2025
Bydd rhaglen newydd o weithdai creadigol a gweithgareddau lles yn lansio yr haf hwn ym Mharc Gwledig Craig Gwladus yn Aberdulais, Castell-nedd, gyda'r nod o helpu pobl i gysylltu â byd natur, dysgu sgiliau newydd, a chefnogi eu hiechyd meddwl.
-
Rhaid i yrrwr dalu £1,717 wedi i wastraff o ystafell ymolchi gael ei dipio’n anghyfreithlon ger safle picnic03 Mehefin 2025
Arweiniodd darganfod llawer o wastraff a dipiwyd yn anghyfreithlon ger safle picnic yng Nghastell-nedd, gan gynnwys celfi ystafell ymolchi, at weld gyrrwr fan yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Abertawe, ar ôl i breswylwyr pryderus alw Tîm Gorfodi Gwastraff Cyngor Castell-nedd Port Talbot.
-
Rhithdaith Newydd yn Ehangu Mynediad i Ystafell Datrysiadau Digidol Castell-nedd Port Talbot02 Mehefin 2025
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi lansio rhithdaith 360° ar-lein newydd sbon o'i Ystafell Datrysiadau Digidol arloesol, gan roi cyfle i drigolion archwilio'r cyfleuster o gysur eu cartrefi eu hunain.
-
Gardd Gymunedol Sandfields yn Agor yn Swyddogol02 Mehefin 2025
Mae gardd gymunedol newydd wedi cael ei hagor yn swyddogol yn Sandfields, gan nodi’r garreg filltir ddiweddaraf mewn ymdrech i ddod â phobl ynghyd, lleihau profiadau ynysig a gwella llesiant yn yr ardal.
-
Gwaith i fynd i'r afael â'r risg i ddiogelwch yn sgil llifogydd mynych ar Heol Fabian ar fin dechrau30 Mai 2025
Ddydd Llun, 30 Mehefin 2025, bydd gwaith hanfodol i wella systemau draenio yn dechrau ar Heol Fabian rhwng Cyffordd Jersey Marine (cylchfan Amazon) a ffordd ymuno'r M4.