Hepgor gwe-lywio

Datganiad I'r Wasg

  • Eisteddfodau’r Urdd yn denu dros 80,000 o gystadleuwyr ifanc
    03 Ebrill 2025

    O Fôn i Faldwyn, i Fynwy a thu hwnt i Gymru, mae’r Urdd yn falch o ddatgan y bydd 80,937 o blant a phobl ifanc wedi camu ar 210 o lwyfannau Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth eleni, sydd yn fwy nag erioed o’r blaen. At hynny, y rhanbarth â’r nifer uchaf o gystadleuwyr ar draws Cymru yw’r ardal sy’n croesawu’r brifwyl eleni, sef Gorllewin Morgannwg.

  • Parc Gwledig Margam yn Cyflwyno ‘Parc Cŵn Parc Margam’ – y Diwrnod Allan Delfrydol i Gŵn yn Ne Cymru!
    01 Ebrill 2025

    Yn galw ar bawb sy'n hoff o gŵn! Mae Parc Gwledig Margam, sef un o gyrchfannau treftadaeth a thwristiaeth mwyaf eiconig Cymru, newydd lansio ‘Parc Cŵn Parc Margam’ – ardal ystwythder gaeedig bwrpasol lle y gall cŵn redeg, neidio, chwarae a chwilota oddi ar dennyn.

  • Ffliw Adar – Annog perchnogion adar yng Nghastell-nedd Port Talbot i fod yn wyliadwrus
    31 Mawrth 2025

    Mae’r Deyrnas Unedig yn profi achosion o Ffliw Adar ledled y wlad, a chafodd Prydain Fawr gyfan ei datgan fel Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ).

  • Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn croesawu ffilm Mr Burton i sinemâu lleol
    31 Mawrth 2025

    Mae 2025 yn nodi blwyddyn Canmlwyddiant Richard Burton ‘RB100’, sy’n dathlu canrif ers geni Richard Burton, actor Hollywood rhagorol a aeth â Chymru i’r byd.

  • Cyngor yn ceisio barn ar Uwch-gynllun arfaethedig Teithio Llesol Castell-nedd
    28 Mawrth 2025

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ceisio adborth gan breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr am welliannau arfaethedig i ddulliau o gerdded, olwyno a seiclo fydd yn gwella opsiynau teithio llesol o gwmpas Canol Tref Castell-nedd.

  • Galwad i ddathlu ein pobl, lleoedd a digwyddiadau nodedig wrth i Gynllun Placiau Glas agor
    28 Mawrth 2025

    BYDD Cynllun Placiau Glas coffaol a gymeradwywyd gan aelodau Cabinet Cyngor Castell-nedd i ddathlu pobl, lleoedd a digwyddiadau nodedig ledled y fwrdeistref sirol yn agor i geisiadau o 1 Ebrill 2025 ymlaen.

  • Hwb-y-Gors: Canolbwynt i Greadigrwydd, Addysg, Busnes a Chynaliadwyedd
    26 Mawrth 2025

    Mae Hwb-y-Gors (HyG), sef adeilad hen Ysgol Cwm-gors, sy’n lleoliad mor annwyl gan gynifer o bobl yn Nyffryn Aman ac sy’n dyddio’n ôl i 1912, wedi gweld trawsnewidiad anhygoel i’w droi’n ganolbwynt cymunedol bywiog, carbon sero.

  • Gwasanaeth newydd ar y ffordd yng Nghastell-nedd Port Talbot i ddelio ag eiddo sydd wedi mynd â’i ben iddo neu sy’n hyll
    26 Mawrth 2025

    Mae gwasanaeth newydd yn mynd i gael ei sefydlu i daclo problemau a achosir ledled Castell-nedd Port Talbot gan eiddo masnachol neu nad oes defnydd preswyl iddo sydd naill ai’n wag neu’n dechrau adfeilio.

  • Prosiect Natur Diweddaraf Port Talbot o dan yr M4
    25 Mawrth 2025

    Mae prosiect natur ym Mhort Talbot wedi cyfoethogi tanffordd drwy ychwanegu cyfres o furluniau, ‘sgrin werdd’ ac amrywiaeth o goed a phlanhigion newydd.

  • Mwy na £230,000 ar y Ffordd i Sefydliadau'r Trydydd Sector yng Nghastell-nedd Port Talbot
    20 Mawrth 2025

    Mae aelodau Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cymeradwyo grantiau gwerth cyfanswm o £234,914 i 12 o ymgeiswyr llwyddiannus fel rhan o'i Gynllun Cyllid Grant Trydydd Sector ar gyfer 2025/26.

Rhannu eich Adborth