Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

  • Dathlwch Ein Treftadaeth a Chymerwch Ran yng Nghystadleuaeth Byddwch yn Rhan o'n Hanes!
    04 Medi 2023

    Os ydych chi rhwng 16 a 25 oed, yn ymddiddori mewn diwylliant a threftadaeth ac yn byw, yn astudio neu'n gweithio yng Nghastell-nedd Port Talbot, rydych chi'n cael eich gwahodd i gymryd rhan yng nghystadleuaeth ‘Byddwch yn Rhan o'n Hanes’ Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

  • Rhybuddio preswylwyr Castell-nedd Port Talbot am fasnachwyr stepen drws
    04 Medi 2023

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn rhybuddio preswylwyr i fod yn wyliadwrus o fasnachwyr sy'n galw heibio'u cartrefi'n ddiwahoddiad.

  • Hyb Canol Tref sy'n helpu pobl i ailddechrau gweithio yn parhau am flwyddyn arall
    31 Awst 2023

    Mae aelodau Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ymestyn les hyb cyflogaeth poblogaidd sy'n gweithredu yng nghanol tref Port Talbot er mwyn iddo barhau â'i waith hanfodol.

  • Ystafelloedd Datrysiadau Digidol Arloesol yn cael eu datgelu i gefnogi Byw'n Annibynnol
    30 Awst 2023

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi agor Ystafelloedd Datrysiadau Digidol o'r radd flaenaf yng Nghanolfan Iechyd a Gofal Cymdeithasol Castell-nedd.

  • Penodi contractwr i adeiladu cyfleuster newydd er mwyn helpu diwydiannau yn y rhanbarth i gyflawni Sero Net
    30 Awst 2023

    Mae cwmni Morgan Sindall Construction wedi cael ei gomisiynu i ddylunio ac adeiladu cyfleuster newydd gwerth £20m a gefnogir gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe yng Nghastell-nedd Port Talbot a fydd yn helpu diwydiant i ddatgarboneiddio.

  • Trefnwyr digwyddiadau'n cael eu gwahodd i ddod ynghyd ar gyfer g?yl
    29 Awst 2023

    Mae trefnwyr digwyddiadau yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cael eu gwahodd i gysylltu eu digwyddiadau eu hunain â G?yl Lluoedd Arfog Maer Castell-nedd Port Talbot 2023, a gynhelir ym mis Hydref a mis Tachwedd.

  • Ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot yn dathlu canlyniadau TGAU
    24 Awst 2023

    Mae disgyblion yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi cael eu gwobrwyo am eu hymdrechion â chanlyniadau sy'n rhoi adlewyrchiad llawn o'u hymrwymiad, eu hymdrech a'u hymroddiad dros y blynyddoedd diwethaf, sydd wedi bod yn heriol iawn yn sgil pandemig COVID-19.

  • Paratoadau olaf ar gyfer Ffair Medi Fawr Castell-nedd 2023!
    23 Awst 2023

    Mae'r trefniadau terfynol wrthi'n cael eu gwneud ar gyfer Ffair Medi Fawr eiconig Castell-nedd, sydd wedi bod yn cael ei chynnal ers dros 700 mlynedd – gan olygu ei bod yn un o'r ffeiriau siarter hynaf yn Ewrop.

  • Maethu Cymru’n tynnu sylw at fuddion maethu gydag awdurdod lleol
    18 Awst 2023

    Wrth i Lywodraeth Cymru symud ymlaen gyda chynlluniau i newid i fodelau gofal nid-er-elw ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, mae Maethu Cymru Castell-nedd Port Talbot yn tynnu sylw at fuddion maethu gydag awdurdod lleol.

  • Dyn yn talu'n ddrud am dipio anghyfreithlon mewn ardal goediog ym Mhort Talbot
    17 Awst 2023

    Mae dyn a adawodd wastraff mewn ardal goediog yn Broomhill, Port Talbot, fwy nag unwaith wedi ymddangos gerbron Ynadon Abertawe.

Rhannu eich Adborth