Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

  • Croeso cynnes i'r busnesau newydd diweddaraf mewn canolfan hamdden a manwerthu brysur
    20 Awst 2025

    Mae'r busnesau diweddaraf sydd wedi ymuno â Chanolfan Hamdden a Manwerthu Castell-nedd wedi cael eu croesawu gan Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, sef y Cyngh. Steve Hunt, a'r Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd, sef y Cyngh. Jeremy Hurley.

  • Y Cyngor yn Cyhoeddi Cynlluniau ar gyfer Canolfan Alwedigaethol Newydd Arfaethedig
    19 Awst 2025

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer Canolfan Alwedigaethol cyn-16 newydd arfaethedig yn yr hen Ganolfan Adnoddau Dysgu Addysg (ELRS) yn Felindre, Port Talbot. Bwriedir i'r ganolfan helpu pobl ifanc 14–16 oed i ddysgu sgiliau ymarferol, ennill cymwysterau galwedigaethol a dilyn llwybrau at yrfaoedd yn y dyfodol.

  • Ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot yn dathlu canlyniadau Safon Uwch.
    14 Awst 2025

    Mae myfyrwyr ac athrawon yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur a Chanolfan Chweched Dosbarth Gatholig Joseff Sant ym Mhort Talbot, sef y ddwy ysgol yng Nghastell-nedd Port Talbot sy'n cynnig addysg ôl-16, yn cael eu llongyfarch am eu llwyddiannau yn 2025. Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn mynychu Grŵp Colegau NPTC i barhau â'u haddysg ôl-16.

  • Dyn yn talu'n ddrud am ollwng concrit yn y ffordd
    12 Awst 2025

    Mae dyn a ollyngodd rwbel concrit ar Ffordd Amazon yn ardal Twyni Crymlyn wedi ymddangos gerbron Ynadon Abertawe ar ôl i Dîm Gorfodi Gwastraff Cyngor Castell-nedd Port Talbot ddod o hyd iddo.

  • Castell-nedd Port Talbot yn ennill cyllid gan brosiect ‘Trefi Byd Natur’ sydd ar waith ledled y DU
    11 Awst 2025

    Mae Castell-nedd Port Talbot wedi cael cyllid gan fenter sydd ar waith ledled y DU i wella mynediad at fannau gwyrdd, trawsnewid tirweddau trefol, integreiddio byd natur mewn prosesau gwneud penderfyniadau lleol a gwneud trefi a dinasoedd yn wyrddach, yn iachach, ac yn fwy gwydn a llewyrchus.

  • Canghellor y DU a Phrif Weinidog Cymru yn ymweld â Chastell-nedd Port Talbot
    08 Awst 2025

    Mae Canghellor y Trysorlys, Rachel Reeves, a Phrif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, wedi ymweld â Chastell-nedd Port Talbot i weld y cynnydd sy'n cael ei wneud ar brosiect diogelwch tomen lo a chwrdd â phobl y mae cau'r ffwrneisi chwyth yng ngwaith dur Port Talbot wedi effeithio arnynt.

  • Cymeradwyaeth Cynllunio ar gyfer Safle Newydd Ysgol Gynradd Gymraeg Rhosafan yn Sandfields, Port Talbot
    06 Awst 2025

    Mae cymeradwyaeth cynllunio wedi cael ei rhoi ar gyfer ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg arloesol newydd sbon ym Mhort Talbot.

  • Parcio am ddim yn dychwelyd i gilfannau Traeth Aberafan mewn ymateb i bryderon trigolion
    04 Awst 2025

    Mewn cyfarfod arbennig o Gabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot, penderfynwyd dychwelyd i ganiatáu parcio am ddim mewn cilfannau ar hyd Ffordd y Dywysoges Margared yn ardal boblogaidd Glan Môr Aberafan.

  • Cyfle olaf i breswylwyr ddweud eu dweud am eu profiad o fyw yng Nghastell-nedd Port Talbot
    31 Gorffennaf 2025

    Dim ond ychydig o ddiwrnodau sy’n weddill er mwyn i breswylwyr Castell-nedd Port Talbot allu lleisio’u barn am fyw yn y fwrdeistref sirol.

  • Cau bwyty oherwydd pla o chwilod duon ac amodau ‘mochaidd’
    30 Gorffennaf 2025

    Mae Bwyty Têc-awê ym Mhort Talbot wedi cael ei gau ar ôl i swyddogion iechyd amgylcheddol ddarganfod pla byw o chwilod duon (cockroaches) yno.

Rhannu eich Adborth