Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

  • Tîm Cyngor i wneud gwaith trwsio hanfodol ar Ddraen Ford ar Ffordd Fabian
    24 Ionawr 2025

    Mae defnyddwyr heol yn cael eu cynghori y bydd gwaith arfaethedig yn dechrau ddydd Llun 27 Ionawr ar un o heolydd prysuraf Bae Abertawe, er mwyn gwneud gwaith trwsio hanfodol o fewn system ddraenio Cyngor Castell-nedd Port Talbot sy’n gwasanaethu Cilgant Elba.

  • Ap ‘peiriant amser’ newydd yn galluogi ymwelwyr i brofi Castell Margam mewn hen ffordd hollol newydd!
    24 Ionawr 2025

    Mae ap Realiti Estynedig (AR) arloesol sy’n dod â hanes cyfoethog castell godidog Margam yn fyw bellach ar gael i’w ddefnyddio gan ymwelwyr.

  • Caffi artisan newydd sbon yn agor yn Nhonna
    23 Ionawr 2025

    Mae hen dŷ tafarn segur oedd wedi dechrau mynd yn adfail yn Nhonna wedi cael bywyd newydd, a bydd yn agor ei ddrysau i’r cyhoedd unwaith eto ar ôl cael ei adnewyddu’n llwyr diolch i grant oddi wrth Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

  • Noson Cofio’r Holocost Castell-nedd Port Talbot
    22 Ionawr 2025

    Mae Cyngor Ymgynghorol Sefydlog Castell-nedd Port Talbot ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg Crefydd yn cynnal noson Cofio Holocost Castell-nedd Port Talbot ar Ddydd Mercher y 29ain o Ionawr 2025, yn Y Neuadd Fawr, Campws y Bae Prifysgol Abertawe, Ffordd Fabian, Crymlyn Burrows, SA1 8EN am 6yh.

  • Ymunwch â’r Her – Ras Parc Margam 10k a 5k yn dychwelyd ar gyfer 2025!
    20 Ionawr 2025

    Mae ras Parc Margam 10k a 5K yn ôl ar gyfer 2025 ar ddydd Sul Mawrth 16, gan roi cyfle i redwyr gael cyfle i ymarfer corff llesol ynghanol parc gwledig gyda’r harddaf a mwyaf hanesyddol ym Mhrydain gyfan.

  • Galwad i Ddathlu Pobl, Lleoedd, a Digwyddiadau Nodedig Castell-nedd Port Talbot wrth i Gynllun Placiau Glas Agor
    16 Ionawr 2025

    Mae Cynllun Placiau Glas Coffa i ddathlu pobl, lleoedd, a digwyddiadau nodedig ledled Castell-nedd Port Talbot bellach wedi agor.

  • Mynnwch Ddweud eich Dweud ar Gyllideb Ddrafft Castell-nedd Port Talbot ar gyfer 2025/26
    10 Ionawr 2025

    Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi dechrau ar gyllideb ddrafft Castell-nedd Port Talbot ar gyfer 2025/26. Mae’r ymgynghoriad ar agor tan ddydd Gwener 31 Ionawr 2025.

  • Maer Castell-nedd Port Talbot yn annerch y Cyngor llawn yng nghyfarfod cyntaf y flwyddyn
    10 Ionawr 2025

    Wrth annerch cyfarfod llawn o'r Cyngor ddydd Mercher, 8 Ionawr 2025, talodd Maer Castell-nedd Port Talbot, y Cyngh. Matthew Crowley, deyrnged i'w ewythr, Noel Crowley, a fu farw ym mis Rhagfyr 2024.

  • Openreach yn cynllunio uwchraddio'r seilwaith ffeibr yng Nghastell-nedd Port Talbot
    08 Ionawr 2025

    Bydd lleoliadau newydd yn cael budd o Bartneriaeth Gymunedol Ffeibr Openreach gyda chymorth drwy Gynllun Talebau Band Eang Gigadid Llywodraeth y DU.

  • Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn Cyhoeddi Cyllideb Ddrafft 2025/26 yng Nghyd-destun Sefyllfa Ariannol Heriol
    06 Ionawr 2025

    Mae adroddiad sy'n amlinellu cyllideb ddrafft Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer 2025/26 wedi cael ei gyhoeddi.