Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Ailgylchu dros Y Nadolig

Dyddiad casglu

Gallwch wirio newidiadau i gasgliadau gwyliau banc y Nadolig hwn.

Atgoffa e-bost

Cofrestru ar gyfer cyfrif fyCNPT I derbyn nodyn atgoffa e-bost cyn eich diwrnod casglu biniau.

Canolfannau Ailgylchu

Bydd pob Canolfan Ailgylchu ar gau ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.

Papur lapio

Gallwch ailgylchu papur lapio os yw'n pasio'r prawf sgrwnsio. Gwyliwch ein fideo i ddysgu mwy.

Cardfwrdd

Gan fod mwy o gardfwrdd i'w gasglu nawr, rydyn ni'n defnyddio cerbyd ychwanegol i'w godi

Cardiau Nadolig

Gellir ailgylchu cardiau Nadolig drwy eu rhoi yn eich sach cardbord cyn belled nad oes gliter arnynt na deunydd sydd ddim yn gerdyn e.e. laminiad plastig.

Coed Nadolig

Gallwch fynd â choed Nadolig i unrhyw un o'n canolfannau ailgylchu (cofiwch drefnu apwyntiad). Bydd coed go iawn yn cael eu hanfon i'w compostio. 

Gormod o wastraff

Edrychwch ar ein canllaw ailgylchu i wneud yn siŵr eich bod chi'n ailgylchu popeth y gallwch chi.

Os oes gennych fwy o wastraff na ellir ei ailgylchu ar ôl y Nadolig, gallwch roi hyd at dri bag du ychwanegol ar eich diwrnod casglu sbwriel rhwng 27 Rhagfyr 2025 a 7 Ionawr 2026.

Gallwch roi un bin olwyn gyda thri bag du wrth ei ymyl.

Os nad oes gennych fin olwyn, gallwch roi hyd at chwe bag du.

Rhannu eich Adborth