Ailgylchwch fwy, ailgylchwch yn iawn!
Oeddech chi'n gwybod bod angen i bob cyngor yng Nghymru gyrraedd targedau statudol ar gyfer ailgylchu?
Gallai cynghorau wynebu dirwyon llym os na chyflawnir y targedau.
Mae hyn yn golygu bod angen i bob aelwyd ailgylchu popeth y gallant ac yn gywir!
Er mwyn gwella ein cyfradd ailgylchu, rydym yn annog trigolion i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mwy.
Mae ailgylchu yn bwysig
Mae ailgylchu’n cynnig manteision go iawn i’n hamgylchedd a’n cymunedau:
- Yn lleihau'r angen am ddeunyddiau crai
- Yn arbed ynni
- Yn amddiffyn yr amgylchedd a bywyd gwyllt
- Yn lleihau gwastraff sy'n cael ei anfon i'w losgi
- Yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
- Yn helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd
Mae ailgylchu’n cael ei gasglu’n wythnosol — felly manteisiwch arno!
Ailfeddwl am eich gwastraff
Mae didoli ein hailgylchu wedi dod yn ail natur i lawer ohonom - ond mae mwy y gallwn ei wneud o hyd.
I wneud gwahaniaeth gwirioneddol, mae angen i ni feddwl am wastraff cyn i ni ei greu.
Prynu llai
Byddwch yn ofalus o'r hyn rydych chi'n ei brynu.
Gofynnwch i chi'ch hun: a oes gwir angen rhywbeth newydd arnaf?
Newidiwch y ffordd rydych chi'n siopa
Ceisiwch brynu eitemau ail-law yn gyntaf.
Defnyddiwch ef eto ... ac eto ... ac eto
Ailbwrpasu neu atgyweirio yn lle disodli. Ewch i'ch caffi atgyweirio lleoli gael help i drwsio eitemau.
Ailgartrefu
Cynigiwch ef i ffrindiau neu deulu, neu rhowch i elusen neu siop ailddefnyddio.
Ei ailgylchu
Ailgylchwch unrhyw beth na allwch ei leihau, ei ailddefnyddio na'i atgyweirio.
Biniwch ef
Dim ond pan fetho popeth arall