Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Archebu bin, blwch neu sach newydd

Newidiadau i ailgylchu papur

Gallwch nawr ailgylchu cardbord, cartonau a phapur gyda'i gilydd yn yr un bag ailgylchu gwyn.

Blychau du ar gyfer papur

Gallwch nawr ddefnyddio'ch hen flychau papur du ar gyfer ailgylchu gwydr.  Gwnewch yn siŵr mai dim ond gwydr sydd ynddo, peidiwch â chymysgu deunyddiau.

Neu gallwch fynd â'ch hen flychau du a chaeadau i un o'n  Canolfannau Ailgylchu i'w hailgylchu fel plastig caled.  Cofiwch drefnu apwyntiad.

Archebu offer ailgylchu

Defnyddiwch ein ffurflen i archebu bin, blwch neu sach newydd ar gyfer eich sbwriel ac ailgylchu.

Codir tâl £1.75 am fagiau gwyrdd gwastraff gardd.

Cyn i chi ddechrau 

Bydd angen eich:

  • cyfeiriad
  • rhif ffôn
  • cyfeiriad e-bost

Dosbarthu

Byddwn yn danfon eich archeb o fewn 18 diwrnod gwaith.

Gallwch ddilyn eich archeb os oes gennych gyfrif fyCNPT.

Gwastraff clinigol

Am resymau iechyd a diogelwch, ni allwn dderbyn nodwyddau drwy ein gwasanaethau gwastraff.

Cysylltwch â'ch bwrdd iechyd lleol neu'r cyflenwr gwreiddiol i gael cyngor.

Bagiau gwastraff cŵn a bwyd

Darganfyddwch ble gallwch chi gasglu bagiau gwastraff cŵn a bwyd am ddim.

Rhannu eich Adborth