Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Cael help i roi eich biniau allan

Trosolwg

Os oes gennych anhawster rhoi eich biniau ac ailgylchu allan i'w casglu, gallwch ofyn i ni am help.

Gallwn gasglu a gwagio eich biniau, bagiau a blychau, yna eu dychwelyd i'r lle y gwnaethoch eu gadael. Gelwir hyn yn gasgliad â chymorth.

Pwy all gael casgliad â chymorth

Gallwch gael casgliad â chymorth os:
  • rydych chi'n ei chael hi'n anodd rhoi eich biniau allan oherwydd salwch, oedran neu anabledd
  • does neb yn gallu eich helpu i roi eich biniau a'ch ailgylchu allan
Ni allwch gael casgliad â chymorth os:
  • gall rhywun eich helpu i roi eich biniau a'ch ailgylchu allan
  • mae gennych dreif hir
  • mae ffin yr eiddo ymhell o'r eiddo
  • mae yna nifer fawr o grisiau sy'n effeithio ar iechyd a diogelwch y criwiau casglu

Gwneud cais

Cyn i chi ddechrau

Gwiriwch a allwch chi gael casgliad â chymorth.

Bydd angen:

  • eich enw
  • eich cyfeiriad
  • manylion cyswllt
  • cadarnhad na all neb eich helpu

Beth sy'n digwydd nesaf

Byddwn naill ai’n eich ffonio chi neu’n ymweld â’ch eiddo i drafod y casgliad â chymorth. Byddwn yn rhoi gwybod i chi beth yw ein penderfyniad ar ddiwedd yr alwad neu’r ymweliad.

Ceisiadau llwyddiannus

Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn:

  • cytuno ar bwynt casglu dynodedig ar eich eiddo
  • anfon llythyr cadarnhau atoch

Bydd eich casgliadau â chymorth yn dechrau ar eich casgliad nesaf ar ôl i chi dderbyn y llythyr.

Rhaid i chi barhau i roi eich bagiau a'ch biniau yn eich man casglu arferol nes i chi dderbyn cadarnhad.

Gofynion mynediad

Ni chaniateir i ni fynd i mewn i unrhyw adeiladau (fel garejys na siediau) i symud na dychwelyd offer.

Ar ddiwrnod casglu, gwnewch yn siŵr bod y gatiau wedi'u datgloi a bod y llwybrau'n glir.

Adolygiad

Byddwn yn adolygu'r angen am y casgliadau â chymorth bob tair blynedd. Os nad oes angen y gwasanaeth hwn arnoch mwyach, rhowch wybod i ni.

Rhannu eich Adborth