Caffi Trwsio Cymru
Peidiwch â'i daflu yn y bin, trwsiwch ef!
Os oes gennych chi eitemau wedi torri o gwmpas y tŷ, beth am geisio eu trwsio yn lle eu rhoi yn y bin? Gall hyn arbed arian i chi a helpu'r amgylchedd.
Gallwch wylio fideos 'sut i' neu fynd â nhw i siop atgyweirio leol fel Caffi Trwsio Cymru.
Gall siopau atgyweirio helpu i drwsio pethau fel:
- dillad
- electroneg cartref
- technoleg
- gwaith coed
- teganau plant
- dodrefn
- beiciau
Mae cyngor ac atgyweiriadau am ddim ond mae croeso i roddion ac maent yn helpu i gadw caffis atgyweirio i fynd ledled Cymru.
Dewch o hyd i'ch caffi atgyweirio lleol a dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol.