Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Canolfan ailgylchu Llansawel

Lleoliad ac oriau agor

Mae'n rhaid eich bod wedi trefnu apwyntiad cyn ymweld.

8.30y.b. i 5.00y.p., 7 dyddiau yr wythnos

Ar gau Dydd Nadolig, Dydd San Steffan a Dydd Calan

Cyfarwyddiadau i SA11 2HZ
Canolfan Ailgylchu Llansawel
Ystâd Ddiwydiannol Llansawel,
Llansawel,
Castell-nedd,
SA11 2HZ pref

Deunyddiau

Ar hyn o bryd, ni dderbynnir teiars ar y safleoedd hyn. Cofiwch gysylltu â’ch manwerthwyr teiars lleol i wirio a ydynt yn derbyn teiars i’w hailddefnyddio/hailgylchu.

Eitemau a dderbynnir
  • asbestos (dylid lapio dwbl mewn cynfasau polythen)
  • batris cartref
  • batris cerbydau
  • bylbiau/tiwbiau golau fflworoleuol
  • caniau metel
  • cardbord
  • cemegau gardd a chartref e.e. plaleiddiaid
  • chyfarpar ffotograffig
  • cyfarpar trydan ac electronig gwastraff
  • cynfasau to concrid*
  • cynnyrch gofal anifeiliaid anwes
  • diffoddydd tân
  • esgidiau
  • gwastraff (gardd) gwyrdd
  • gwastraff anadweithiol
  • gwastraff cartref cyffredinol
  • gwastraff ceramig yn unig*
  • gwrteithiau
  • gwydr ffenestri
  • inswleiddio atig
  • metel sgrap
  • oergelloedd/rhewgelloedd
  • paent cartref - gallwch hefyd gymryd paent emwlsiwn a roddwyd o'r safle. Siaradwch ag un o Gynorthwywyr y Safle am fwy o wybodaeth
  • papurau newydd a chylchgronau
  • petroliwm (injan) gwastraff
  • plaster a byrddau plaster
  • plastigion
  • poteli a jariau gwydr
  • pren/coed
  • pridd*
  • rwbel adeiladu yn unig*
  • rwbel adeiladu cymysg (gan gynnwys cerrig, pren, eitemau ceramig etc.)*
  • tecstilau

*Yr eitemau hyn yn cael eu dosbarthu fel gwastraff adeiladu.

Trefnu apwyntiad

Mae'r canolfannau ailgylchu yn cau am 5.00yp. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gadael digon o amser i ddadlwytho'ch cerbyd ac yn gadael eich gwastraff erbyn 5.00yp.

Os rydych chi'n anabl, bydd staff ar y safle yn hapus i helpu'n dadlwytho eich cerbyd.

Newidiadau i'ch apwyntiad

Gallwch i wneud unrhyw newidiadau i'ch apwyntiad(au) ar-lein. Bydd hyn yn cynnwys:

  • canslo i'ch apwyntiad
  • newid yr apwyntiad neu
  • newidi y rhif cofrestru'r cerbyd

Gwastraff adeiladu

Caniateir symiau bach o wastraff adeiladau hyd at gyfwerth â 3 sach yr wythnos (maint cyfwerth â sach ddu gwastraff cartref gyffredinol), yr aelwyd i gael ei waredu am ddim yn y safle. Heb gynnwys asbestos. Bydd ffi i sachau sy'n gynnwys asbestos. (Noder: wythnos yw 7 diwrnod yn olynol o'ch apwyntiad cychwynnol). 

Bydd yn rhaid i chi dalu ffi am lwythi mawr.

Math o wastraff Pris o fis Ebrill 2025

Rwbel adeiladu yn unig

£24.68 y dunnell
Rwbel adeiladu cymysg (gan gynnwys cerrig, pren, eitemau ceramig etc.) £73.17 y dunnell
Gwastraff ceramig yn unig £41.08 y dunnell
Gwastraff torri coed £62.38 y dunnell
Pridd £24.68 y dunnell
Plaster a byrddau plaster £141.17 y dunnell
Asbestos gan gynnwys cynfasau toad concrid (ddim yn cynnwys asbestos)
(dylid lapio dwbl haenau asbestos mewn cynfasau polythen)
£18.46 y cynfas/eitem (yn seiliedig at gynfasau 8tr x 3tr)
Pecynnu cardbord (tâl lleiaf o £5.00 y dunnell) £10.00 y dunnell

Mae'r holl brisiau'n cynnwys TAW

Codir tâl am bwysau'r gwastraff fel a ganlyn (bydd terfyn uchaf pob band pwysau yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo'r taliad).

NID yw hyn yn cynnwys asbestos. Codir tâl am asbestos am bob cynfas/eitem.

  • 0 i 100kg
  • 100 i 250kg
  • 250 i 500kg
  • 500 i 1,000kg

Codir tâl am unrhyw swm sy'n fwy na 1,000kg mewn cynyddrannau 500kg.

Pont Bwyso a Thalu

Bydd y cyfleusterau pwyso ar gael rhwng:

  • 8.30yb to 5.00yp dydd Llun i ddydd Gwener
  • 8.30yb to 12.30yp ddydd Sadwrn a dydd Sul

Gallwch wneud taliad yn ystod yr oriau hyn. Rydym yn derbyn cardiau debyd / credyd ac arian parod.

Faniau, cerbydau codi ac ôl-gerbydau

Gall deiliaid tai sydd â faniau, pick-ups a threlars echel ddwbl gael mynediad i'r ganolfan ailgylchu ond mae angen trwydded. Pan fyddwch chi'n trefnu amser, bydd trwydded yn cael ei chyhoeddi'n awtomatig. Caniateir uchafswm o 12 trwydded y flwyddyn i breswylwyr (o 1 Ebrill i 31 Mawrth y flwyddyn ganlynol).

Gall ôl-gerbydau un echel ddefnyddio'r canolfannau ailgylchu ond nid oes angen trwydded.

Nid yw faniau "Tipper/flatbed" a faniau 7.5 tunnell fawr yn cael eu caniatáu ar y safle.

Rhannu eich Adborth