Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Canolfan ailgylchu Y Cymer

Lleoliad ac oriau agor

Rhaid eich bod wedi trefnu apwyntiad cyn ymweld.

11.00y.b. i 5.00y.p., 7 dyddiau yr wythnos.

Ar gau Dydd Nadolig, Dydd San Steffan a Dydd Calan.

Cyfarwyddiadau i SA13 3EE
Canolfan ailgylchu Y Cymer
Stryd Margam,
Y Cymer,
SA13 3EE pref

Deunyddiau

Eitemau a dderbynnir
  • batris cartref
  • batris cerbydau
  • bylbiau/tiwbiau golau fflworoleuol
  • caniau metel
  • cardbord
  • cemegau gardd a chartref e.e. plaleiddiaid
  • chyfarpar ffotograffig
  • cyfarpar trydan ac electronig gwastraff
  • cynfasau to concrid*
  • cynnyrch gofal anifeiliaid anwes
  • diffoddydd tân
  • esgidiau
  • gwastraff (gardd) gwyrdd
  • gwastraff anadweithiol
  • gwastraff cartref cyffredinol
  • gwastraff ceramig yn unig*
  • gwrteithiau
  • gwydr ffenestri
  • inswleiddio atig
  • metel sgrap
  • oergelloedd/rhewgelloedd
  • paent cartref
  • papurau newydd a chylchgronau
  • petroliwm (injan) gwastraff
  • plaster a byrddau plaster
  • plastigion
  • poteli a jariau gwydr
  • pren/coed
  • pridd*
  • rwbel adeiladu yn unig*
  • rwbel adeiladu cymysg (gan gynnwys cerrig, pren, eitemau ceramig etc.)*
  • tecstilau

*Yr eitemau hyn yn cael eu dosbarthu fel gwastraff adeiladu. Caniateir symiau bach o wastraff hyd at gyfwerth â 3 sach yr wythnos (maint cyfwerth â sach ddu gwastraff cartref gyffredinol), yr aelwyd i gael ei waredu am ddim yn unrhyw un o'r safleoedd.

Rhaid i chi fynd â llwythi mawr ac unrhyw sachau sy'n cynnwys asbestos i Ganolfan Ailgylchu Llansawel. Bydd yn rhaid i chi dalu ffi.

Trefnu apwyntiad

Mae'r canolfannau ailgylchu yn cau am 5.00yp. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gadael digon o amser i ddadlwytho'ch cerbyd ac yn gadael eich gwastraff erbyn 5.00yp.

Os rydych chi'n anabl, bydd staff ar y safle yn hapus i helpu'n dadlwytho eich cerbyd.

Newidiadau i'ch apwyntiad

Gallwch i wneud unrhyw newidiadau i'ch apwyntiad(au) ar-lein. Bydd hyn yn cynnwys:

  • canslo i'ch apwyntiad
  • newid yr apwyntiad neu
  • newidi y rhif cofrestru'r cerbyd

Faniau, cerbydau codi ac ôl-gerbydau

Gall deiliaid tai sydd â faniau, pick-ups a threlars echel ddwbl gael mynediad i'r ganolfan ailgylchu ond mae angen trwydded. Pan fyddwch chi'n trefnu amser, bydd trwydded yn cael ei chyhoeddi'n awtomatig. Caniateir uchafswm o 12 trwydded y flwyddyn i breswylwyr (o 1 Ebrill i 31 Mawrth y flwyddyn ganlynol).

Gall ôl-gerbydau un echel ddefnyddio'r canolfannau ailgylchu ond nid oes angen trwydded.

Nid yw faniau "Tipper/flatbed" a faniau 7.5 tunnell fawr yn cael eu caniatáu ar y safle.

Rhannu eich Adborth