Archebu bin, blwch neu sach newydd
Newidiadau i ailgylchu papur
Gallwch nawr ailgylchu cardbord, cartonau a phapur gyda'i gilydd yn yr un bag ailgylchu gwyn.
Blychau du ar gyfer papur
Gallwch nawr ddefnyddio'ch hen flychau papur du ar gyfer ailgylchu gwydr. Gwnewch yn siŵr mai dim ond gwydr sydd ynddo, peidiwch â chymysgu deunyddiau.
Neu gallwch fynd â'ch hen flychau du a chaeadau i un o'n Canolfannau Ailgylchu i'w hailgylchu fel plastig caled. Cofiwch drefnu apwyntiad.
Archebu offer ailgylchu
Dilyn eich archeb
Gallwch ddilyn eich archeb gan ddefnyddio ein cyfrif preswylwyr newydd, myNPT.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen eich:
- cyfeiriad
- rhif ffôn
- cyfeiriad e-bost
Codir tâl £1.75 am fagiau gwyrdd gwastraff gardd.
Dosbarthu
Byddwn yn danfon eich archeb o fewn 18 diwrnod gwaith.
Gwastraff clinigol
Am resymau iechyd a diogelwch, ni allwn dderbyn nodwyddau drwy ein gwasanaethau gwastraff.
Cysylltwch â'ch bwrdd iechyd lleol neu'r cyflenwr gwreiddiol i gael cyngor.
Bagiau gwastraff cŵn a bwyd
Darganfyddwch ble gallwch chi gasglu bagiau gwastraff cŵn a bwyd am ddim.