Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Diweddariad casglu gwastraff - 29 Mai

Oherwydd amhariad ar draffig ledled rhwydwaith CNPT, nid yw ein timau casglu wedi gallu cwblhau pob casgliad a drefnwyd ar gyfer heddiw (29 Mai). Yn dilyn yr oedi i gasgliadau a brofwyd dros yr wythnos hon o ganlyniad i’r galw ychwanegol a grëwyd gan gŵyl y banc a’r tywydd cynnes, gofynnwn yn garedig i drigolion adael eu gwastraff allan i’w gasglu, a byddwn yn aildrefnu’r casgliadau dros y dyddiau nesaf.  Hoffem ymddiheuro am yr anghyfleustra a achoswyd a diolch i chi am eich amynedd a’ch dealltwriaeth yn y mater hwn.

Nid oes angen rhoi gwybod am gasgliad a gollwyd yn yr achos hwn.

Rhannu eich Adborth