Urddas mislif
Mae cynhyrchion mislif y gellir eu hailddefnyddio yn cynnig dewis arall cynaliadwy, economaidd, a chyfeillgar i'r croen yn lle eitemau untro. Opsiynau ecogyfeillgar am ddim ar gael ledled y fwrdeistref.
Manteision cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio
Cyfeillgar i'r amgylchedd
Mae cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio yn helpu i leihau plastigau untro a gwastraff cyffredinol.
Cost-effeithiol dros amser
Gellir golchi ac ailddefnyddio'r cynhyrchion hyn, gan arbed arian yn y tymor hir.
Tyner ar y croen
Gyda fawr ddim cemegau, neu ddim cemegau o gwbl, mae opsiynau y gellir eu hailddefnyddio yn aml yn fwy caredig i'ch corff.
Cynhyrchion yn rhad ac am ddim
Gallwch gasglu cynhyrchion mislif am ddim o leoliadau fel ysgolion a llyfrgelloedd.
Mae amrywiaeth o gynhyrchion mislif ecogyfeillgar ar gael i bawb, gan gynnwys:
- tamponau
- cwpanau mislif
- pants mislif
- padiau
Dysgwch fwy
Ewch i wefan Urddas Mislif CNPT am fanylion llawn.