Sachau gwyrdd gwastraff gardd
Darganfyddwch pa eitemau y gallwch eu rhoi yn eich bag ailgylchu gwastraff gardd. Cesglir y rhain bob pythefnos fel rhan o'ch casgliad bin olwynog/bagiau du.
Darganfyddwch pryd mae eich diwrnod casglu nesaf gan ddefnyddio ein darganfyddwr diwrnod casglu.
- Gwair, chwyn a dail
- Blodau - wedi'u u torri a chynnwys basgedi crog a phlanhigion mewn potiau
- Tociadau llwyni, rhisgl, brigau, canghennau (llai na 5cm o led)
- Blawd llif a darnau bach o bren
- Pridd, compost, rwbel, pren neu gerrig
- Chwyn ymledol megis Canclwm Japan, ffromlys chwarennog a'r benfelen
- Boncyffion coed neu ganghennau trwchus
- Gwelyau anifeiliaid
Archebu offer ailgylchu
Mae Llywodraeth Cymru’n argymell bod awdurdodau lleol yn codi tâl ar gyfer casglu gwastraff gardd. Gan nad yw’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd yn un gorfodol, gall awdurdodau lleol godi tâl i dalu costau’r gwasanaeth.
Yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot, rydym wedi dewis peidio â chyflwyno tâl am y gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd. Fodd bynnag, os ydych chi’n newydd i’r gwasanaeth neu os oes angen sachau ychwanegol neu rai newydd arnoch chi, mae’r rhain ar gael i’w prynu am gost â chymhorthdal o £1.75 y bag. Mae'r tâl hwn yn berthnasol i bob preswylydd y mae angen bagiau ychwanegol arno, hyd yn oes os ydynt wedi cael eu dwyn neu wedi mynd ar goll.