Adfywio camlesi
Trosolwg
Rydym yn cydnabod y cyfraniad y mae Camlesi Castell-nedd, Abertawe a Thennant yn ei wneud at:
- cymeriad Castell-nedd Port Talbot
- yr amgylchedd byw
- bioamrywiaeth
- bywiogrwydd economaidd
- ansawdd bywyd
Nid Cyngor Castell-nedd Port Talbot yw perchnogion y camlesi. Fodd bynnag, rydym yn dymuno creu ac annog y partneriaethau sydd eu hangen i gefnogi eu hadfywio. Bydd adfywio’r asedau treftadaeth ac amgylcheddol allweddol hyn yn dod â budd i:
- ein cymunedau
- ecosystemau bywyd gwyllt
- yr economi leol
- cenedlaethau’r dyfodol
Bydd adfywio’r camlesi yn y dyfodol yn dibynnu ar argaeledd cyllid.
Asesiad hyfywedd
Comisiynwyd astudiaeth hyfywedd i edrych ar ffyrdd o adfer ac adfywio Camlesi Castell-nedd a Thennant. Ariannwyd yr astudiaeth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, a bu’n archwilio:
- opsiynau adfer
- cyfleoedd amgylcheddol a threftadaeth
- manteision economaidd a chymdeithasol adfywio camlesi
Lawrlwythiadau
Rhaglen “Heritage Places” Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
Mae “Heritage Places” yn fuddsoddiad strategol hirdymor mewn hyd at 20 o leoedd gwahanol ledled y DU. Mae’n:
- cysylltu pobl â’r dreftadaeth ar eu stepen drws
- galluogi cymunedau i benderfynu a chynllunio ar gyfer y tymor hir
- meithrin capasiti drwy gynyddu sgiliau a chyfleoedd cyflogaeth ym maes treftadaeth
- adeiladu balchder yn y lleoedd lle mae pobl yn byw, gweithio ac ymweld – nawr ac ar gyfer y dyfodol