Grantiau
Trosolwg
Mae'r tîm Adfywio yn rheoli nifer o gynlluniau grantiau eiddo gyda'r nod o wella adeiladau busnes mewn ardaloedd masnachol. Mae pwyslais y cynlluniau ar annog twf busnesau a mentrau newydd, creu cyflogaeth a gwella'r amgylchedd masnachol drwy welliannau o safon uchel i’r eiddo. Mae'r grantiau yn ategu gwaith arall sy'n cael ei wneud i adfywio canol trefi.
Grantiau Eiddo Masnachol
Mae'r Grant Eiddo Masnachol (GEM) ar gael i berchnogion mangreoedd masnachol sydd am wella golwg eu hadeilad. Mae'n grant dewisol sy'n talu am hyd at 50% o'r costau cymwys.
Mae'r cynllun yn blaenoriaethu ceisiadau sy'n:
- creu swyddi (trwy gychwyn neu ehangu busnesau)
- gwella blaenau siopau anghydnaws ar strydoedd mawr traddodiadol
- gwella adeiladau amlwg eraill mewn lleoliadau allweddol
Gwaith cymwys yn cynnwys
- adnewyddu blaen siopau
- adnewyddu ffenestri a drysau
- arwyddion newydd
- nwyddau dwr glaw
- paentio, rendro a sylw i gerrig a gwaith brics
- toeau
- cefnluniau ac ystlysluniau eiddo os ydynt yn weledol amlwg
Gwaith anghymwys
- gwaith trwsio a chynnal a chadw rheolaidd
- gwaith sy'n berthnasol i iechyd a diogelwch a gofynion statudol
- gwaith na fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol i welliannau amgylcheddol cyffredinol yn yr ardal
- costau cyfreithiol a gafwyd mewn perthynas â'r prosiectau GEM
Am ragor o wybodaeth a chanllawiau grantiau, cysylltwch â:
Astudiaeth
43 Commercial Road, Taibach
Bu rhaid i Lunacy Boutique symud o'u safle gwreiddiol yn union y tu allan i Ganol Tref Port Talbot erbyn dechrau 2011, maent yn penderfynu prynu yr hen Ganolfan Llogi Adnoddau Gwaith ar Commercial Road yn Taibach. Cyn y byddai'n addas i'r diben fel boutique merched, roedd angen cynnal gwaith adnewyddu helaeth y tu mewn a'r tu allan.
Mae'r cymorth ariannol a ddarperir gan Cynllun Grant Eiddo Masnachol i berchnogion i wneud gwelliannau allanol yn cynnwys blaen siop pren caled newydd, ffenestri a drysau, arwyddion a rendro. Mae'r gefnogaeth ariannol hefyd wedi ryddhau cyfalaf ar gyfer y perchnogion i cynnal gwedd newydd cyflawn tu fewn y boutique, a hefyd llety byw yn y cefn ac ar y llawr gyntaf.