Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Adfywio canol tref Port Talbot

Mae'r prosiect hwn a ariennir gan Lywodraeth y DU yn cynnwys tair rhan:
  • adnewyddu Theatr y Dywysoges Frenhinol, gan arallgyfeirio ac ehangu ei chynigion presennol
  • ailddatblygu Sgwâr Dinesig Port Talbot yn fan cymunedol aml-ddefnydd a chyflwyno seilwaith gwyrdd
  • ailddatblygu parth cyhoeddus yn Riverside i ddarparu seilwaith gwyrdd a mannau chwarae naturiol i blant – cam dau o'r prosiect pan fydd cyllid ychwanegol wedi'i ganfod

Mae'r gwaith ar y gweill, a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn Haf 2026.

Delwedd cyfrifiadurol

Adnewyddu Theatr y Dywysoges Frenhinol

Nod y prosiect yw gwella canol y dref drwy:

  • arallgyfeirio a chynyddu’r cynnig presennol
  • annog mwy o bobl i ddefnyddio’r dref
  • cefnogi busnesau lleol
  • peri fod y dref yn fwy deniadol ac yn lle bywiog i ymweld â hi
  • cynyddu’n sylweddol faint o lecynnau glas sydd yno, a fydd yn helpu i fynd i’r afael â chynnydd mewn tymheredd, ansawdd awyr gwael a
    phroblemau gorlifo
  • gwella llesiant

Ailddatblygu Sgwâr Dinesig Port Talbot

Bydd ailddylunio’r Sgwâr Dinesig yn darparu lle hyblyg ar gyfer cynnal marchnadoedd, digwyddiadau a gweithgareddau tymhorol.

Bydd nodwedd ganolog newydd yn cynnwys seddi integredig a mannau plannu, a bydd yr ardal yn cynnwys tirlunio meddal, gan gynnwys:

  • plannu gweiriau
  • llwyni
  • choed
  • nodweddion/gerddi glaw systemau draenio trefol cynaliadwy (SUDS)

Bydd y prosiect yn gwella hygyrchedd yn y parth cyhoeddus ac yn creu llwybrau mwy deniadol a hygyrch drwodd i ardaloedd eraill ynghanol y
dref. Defnyddir mathau cyfoes o balmant sy’n addas i’r hinsawdd ac yn hawdd eu cynnal a’u cadw.

Bydd y maes parcio hefyd yn cael ei ailddylunio ac yn cael arwyneb newydd.

Diweddariadau diweddaraf

Ariannu

Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU.

 

Neath Port Talbot Council logo          Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU         

Rhannu eich Adborth