Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Adfywio Parc Gwledig y Gnoll

Adfywiad

Mae gwaith ailddatblygu mawr werth £12 miliwn o'r parc bellach wedi'i gwblhau. Mae'r gwaith wedi cynnwys:

  • canolfan ymwelwyr deulawr newydd
  • gwaith sefydlogi a thrwsio adfeilion Tŷ Gnoll
  • adfer rhaeadrau hanesyddol y parc
  • pont newydd sy’n cysylltu’r parc â Fferm Brynau gerllaw, sy’n hafan i fywyd gwyllt dan reolaeth Coed Cadw.

Canolfan ymwelwyr

Mae'r ganolfan ymwelwyr deulawr hygyrch newydd yn cynnig:

  • caffi modern
  • balconi deniadol sy’n wynebu’r de gyda golygfeydd ysgubol dros y llyn
  • mannau hyblyg i gynnal digwyddiadau a chyfarfodydd
  • ardal chwarae meddal benodol i blant (bydd yn agor yn yr wythnosau nesaf)

Bwthyn y Pwll

Wedi'i lleoli yng nghanol y tiroedd, mae Bwthyn y Pwll yn llety gwyliau sy'n gyfeillgar i gŵn, gyda lle i hyd at chwech o bobl gysgu.

Arferai’r tŷ fod yn fwthyn i’r parcmon yn Oes Fictoria, ac mae’n cynnwys:

  • stôf sy’n llosgi pren gyda phren a ffynnonellir yn gynaliadwy o’r parc
  • gerddi preifat
  • ardal i eistedd ble gellir mwynhau golygfeydd o bwll y parc a’i fywyd gwyllt
Bydd y bwthyn ar gael i'w archebu cyn bo hir.

Ariannu

Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy brosiect Coridor Treftadaeth Cwm Nedd.

 

Neath Port Talbot Council logo          Welsh Government logo         

Rhannu eich Adborth