Cyflwynodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot gais llwyddiannus am gyllid i Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn cyflwyno buddsoddiad gwerth £7.7 miliwn ym Mhontneddfechan a fydd yn gwneud y canlynol:
- creu datrysiad parcio parhaol i reoli effaith ymwelwyr ar bentref Pontneddfechan yn well
- cyflwyno darpariaeth toiledau cyhoeddus newydd a gwell
- creu siop fferm/gymunedol
- creu llety ymwelwyr ar raddfa fach
- gwella diogelwch ffyrdd, y parth cyhoeddus a gwneud gwaith tirweddu
Yn ystod hydref/gaeaf 2023, aeth y Cyngor ati i ymgynghori ar y dyluniadau drafft cychwynnol gyda’r trigolion ym Mhontneddfechan a lluniwyd adroddiad sy’n crynhoi’r adborth a ddaeth i law.
Mae’r Cyngor hefyd wedi llunio ymateb ysgrifenedig ynghylch sut cafodd yr argymhellion eu cynnwys yn y dyluniad terfynol y disgwylir ei gyflwyno mewn cais cynllunio yn y dyfodol agos.
Mae modd lawrlwytho’r adroddiad ymgynghori ac ymateb y Cyngor iddo isod.
Ymgynghoriad
Lawrlwythiadau
-
Adroddiad yr Ymgynghoriad Cymunedol i Gynllun Seilwaith Ymwelwyr Pontneddfechan (PDF 1.41 MB)
-
Ymateb Cyngor Castell-nedd Port Talbot i Adroddiad yr Ymgynghoriad Cymunedol (DOCX 140 KB)