Beth yw HAPS
Mae'r prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer (HAPS) yn rhan o bortffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Mae'n brosiect rhanbarthol a arweinir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.
Nod y prosiect yw ysgogi a chefnogi’r sector tai yn y rhanbarth i:
- mabwysiadu dull HAPS drwy Gronfa Cymhellion Ariannol gwerth £5.75m
- datblygu cadwyn gyflenwi i gefnogi'r galw am dechnoleg HAPS trwy Gronfa Cadwyn Gyflenwi gwerth £7m ychwanegol
Dull HAPS
Bydd y dull yn mabwysiadu systemau ynni effeithlon.
Yn creu cartref sy'n well i'r amgylchedd ac yn fwy cost effeithiol i'w redeg.
Wrth defnyddio technoleg fel:
- paneli solar PV
- pympiau gwres
- batris
- systemau awyru mecanyddol adfer gwres
Nod y dull yw lleihau dibyniaeth gartref ar rwydweithiau ynni presennol.
Mabwysiadu dull HAPS
Rhaid i ni dorri ein dibyniaeth ar danwydd ffosil ar gyfer gwresogi a phweru ein cartrefi yn gyflym i gyflawni sero net.
Mae newidiadau mewn marchnadoedd ynni wedi gyrru llawer o gartrefi yn y rhanbarth i dlodi tanwydd.
Nod prosiect HAPS yw:
- symud miloedd o gartrefi oddi wrth systemau gwresogi tanwydd ffosil
- lleihau biliau ynni
- darparu dewisiadau amgen glanach a gwyrddach
- cael effaith gadarnhaol ar iechyd pobl, yn enwedig lles anadlol
Manteision y prosiect
Nod y prosiect yw mabwysiadu systemau ynni isel yn rhanbarth a gweddill Cymru. Bydd yn:
- defnyddio dull HAPS mewn 7,000 o gartrefi wedi’u hôl-osod a 3,300 o gartrefi newydd
- hysbysu, addysgu a chadarnhau effeithiolrwydd systemau ynni isel trwy ddata monitro HAPS
- cyflymu'r broses weithredu mewn cartrefi Cymreig i fanteisio pawb
Cronfa Cymhellion Ariannol
Er mwyn gosod y dechnoleg, mae gennym £5.75m i'w gymell:
- Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
- awdurdodau lleol
- datblygwyr sector preifat
- landlordiaid
Ein nod yw gosod technoleg sy'n gwneud cartrefi'n lanach, yn wyrddach ac yn fwy effeithlon.
Ceisiadau
Rydym yn gwahodd ceisiadau ar gyfer cynlluniau ar draws y rhanbarth sydd ar gamau cynllunio a chyflawni amrywiol.
Bydd hyn yn helpu i fonitro gwahanol fathau o lety, gan gynnwys adeiladau newydd ac ôl-ffitio.
Mae cyllid HAPS yn aml yn ategu ffrydiau ariannu eraill, megis y Rhaglen Ôl-osod Wedi'i Optimeiddio.
Canlyniadau'r prosiect
Bydd Ysgol Pensaernïaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn monitro ac yn profi perfformiad technoleg HAPS.
Byddant yn mesur manteision defnyddio'r dechnoleg i fonitro:
- lleihad mewn defnydd ynni
- arbedion ariannol i'r rhai sy'n byw mewn cartrefi HAPS
Byddwn yn cyhoeddi'r data i hysbysu ac annog mwy o bobl a mentrau i fabwysiadu'r dull HAPS.
Cysylltwch â ni
Gallwch gysylltu â ni am fwy o wybodaeth am prosiect HAPS.