Cronfa'r Gadwyn Gyflenwi
Mae Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer (HAPS) yn brosiect arloesol i gefnogi mabwysiadu'r ‘dull HAPS’ yn Rhanbarth Dinas Bae Abertawe.
Mae dull HAPS yn ffordd o wneud cartrefi yn fwy ynni-effeithlon ac yn gost-effeithiol. Mae'n cynnwys integreiddio dyluniadau ynni-effeithlon a thechnolegau adnewyddadwy mewn cartrefi newydd a rhai sy'n bodoli eisoes. Y nod yw lleihau dibyniaeth gartref ar rwydweithiau ynni presennol.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn arwain y prosiect ar ran y pedwar partner awdurdod lleol yn Rhanbarth Dinas Bae Abertawe.
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
- Dinas a Sir Abertawe
- Cyngor Sir Caerfyrddin
- Cyngor Sir Penfro
Gweithgareddau'r prosiect
Mae’r prosiect yn cynnwys nifer o weithgareddau cysylltiedig, gan gynnwys:
- cefnogi mabwysiadu dyluniadau ynni-effeithlon a thechnolegau adnewyddadwy mewn cartrefi
- datblygu cadwyn gyflenwi ranbarthol gynaliadwy, fedrus ar gyfer technolegau adnewyddadwy mewn cartrefi
- cynnal rhaglen fonitro a gwerthuso helaeth
Cyllid
Mae'r Gronfa Datblygu Cadwyn Gyflenwi gwerth £7m ar gael i Ranbarth Dinas Bae Abertawe. Mae gan y gronfa dri phrif nod.
- Datblygu cadwyn gyflenwi ranbarthol o dechnolegau i helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd.
- Sicrhau bod digon o sgiliau rhanbarthol i weithgynhyrchu, gosod a chynnal y technolegau.
- Sefydlu'r rhanbarth fel canolfan ragoriaeth mewn technolegau adnewyddadwy.
Grantiau
Y grantiau sydd ar gael yw:
- isafswm grant - £100,000
- uchafswm grant - £1 miliwn
Gallwn drafod ceisiadau y tu allan i'r symiau hyn fesul achos.
Datganiad o ddiddordeb
Rydym am fesur y diddordeb mewn mynd i'r afael â'r nod cyntaf.
Nid yw'r rhan fwyaf o'r technolegau sydd eu hangen ar gael ar hyn o bryd o fewn y rhanbarth. Maent yn cael eu mewnforio neu eu cyrchu o ardaloedd eraill yn y DU neu o dramor. Sut gall eich cwmni newid hyn?
Bwriad y gronfa yw nodi cadwyn gyflenwi bosibl sydd mor eang â phosibl. Bydd y gronfa’n gwneud hyn drwy alwad agored gystadleuol am gynigion sy’n canolbwyntio ar dechnolegau fel:
- Systemau Ynni Deallus (IES)
- pympiau gwres
- waliau pŵer
- batri ar gyfer annedd domestig
- PV solar
- isgoch
Bydd yr alwad agored yn cynnwys:
- cwmnïau cychwynnol - i'w hannog i fuddsoddi yn y technolegau hyn
- busnesau bach - i'w galluogi i adeiladu capasiti
- cwmnïau mwy - i arallgyfeirio i gynnwys y technolegau hyn yn eu cynigion cynnyrch
- buddsoddiad mewnol - fel y gall busnesau sefydlu, tyfu, cyflogi pobl leol a chefnogi datblygiad economaidd y rhanbarth
Allbynnau a chanlyniadau
Mae yna allbynnau a chanlyniad penodol y mae angen i brosiectau eu cyflawni. Bydd y rhain yn cael eu monitro a'u hadrodd fel rhan o delerau ac amodau'r gronfa.
Datblygu cadwyn gyflenwi ranbarthol
Disgwylir mai’r allbwn allweddol cyntaf fydd datblygiad llwyddiannus cadwyn gyflenwi ranbarthol. Bydd y gadwyn gyflenwi hon yn canolbwyntio ar dechnolegau ac offer amgylcheddol cysylltiedig â HAPS a’u:
- gweithgynhyrchu
- cyrchu
- gosod
- gweithredu
- rheoli
- cynnal a chadw
Y nod yw i'r gadwyn gyflenwi fod yn:
- gadarn
- gynaliadwy
- medrus
- hir oes, gyda'r potensial i sefydlu'r rhanbarth fel canolfan ragoriaeth
Gwneud cais
Darllenwch y ddogfen ganllaw cais HAPS isod cyn llenwi’r ffurflen Mynegi Diddordeb.
Lawrlwythiadau
-
Cronfa'r Gadwyn Gyflenwi - Canllawiau ymgeisio HAPS (DOCX 321 KB)
-
Cronfa'r Gadwyn Gyflenwi - Ffurflen gais Datganiad o Ddiddordeb HAPS (DOCX 313 KB)
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gofrestru i gael diweddariadau.