Baked by Jones
Mae Baked by Jones yn becws bach annibynnol ym Mhontardawe, De Cymru.
Mae'n adnabyddus am ddanteithion cartref, gan gynnwys:
- brownis
- blondis
- cwcis
- cacennau bach
- cacennau caws
- teisen fyr
- cacennau pobi mewn hambwrdd
Mae'r becws yn boblogaidd yn y gymuned ac mae ei sylfaen o gwsmeriaid yn tyfu'n gyflym.
Grantiau a chyllid
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi helpu Baked by Jones i fuddsoddi mewn offer pobi newydd.
Mae'r gefnogaeth hon wedi:
- gwella effeithlonrwydd
- cynyddu capasiti cynhyrchu
- helpu'r perchennog i gynllunio ar gyfer twf
- creu'r amodau i gyflogi aelod ychwanegol o'r tîm o fewn y flwyddyn nesaf
Swm a ddyfarnwyd:
£986 drwy Grant Cychwyn Busnes.
Nodweddion y prosiect
Gyda chyfarpar newydd yn ei le, gall y becws:
- pobi mwy
- gwastraffu llai
- bodloni'r galw cynyddol
Mae ei gynhyrchion bellach i'w gweld mewn caffis lleol, gan gynnwys Booths by the Bridge.
Mae'r partneriaethau hyn yn helpu'r busnes i dyfu ei enw da a chyrraedd cwsmeriaid newydd.
Gwneud gwahaniaeth
Mae'r buddsoddiad wedi rhoi hwb i hyder a sefydlogrwydd yn y busnes.
Mae wedi cefnogi Baked by Jones i:
- tyfu'n gynaliadwy
- cryfhau cysylltiadau â phartneriaid lleol
- ysbrydoli busnesau bach eraill yn y gymuned
Mae'r becws bellach yn cael ei ystyried yn enghraifft o lwyddiant lleol a gefnogir gan Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.