Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Ryan Evans Plumbing

Ar ôl colli ei swydd, penderfynodd Ryan Evans ailhyfforddi fel plymwr.

Talodd y grant am:

  • cyrsiau rheoli busnes
  • offer a chyfarpar
  • deunyddiau marchnata
  • rac to ar gyfer cludiant

Rhoddodd y cymorth hwn yr hyder i Ryan ddechrau ei fusnes ei hun. Dywed: “Efallai na fyddwn i yma heddiw oni bai am y Gronfa Ffyniant Cyffredin.”

Heddiw, mae Ryan Evans Plumbing yn tyfu. Mae bellach yn darparu gwasanaethau plymio, gwresogi a theils ledled De Cymru.

Fideo'r prosiect

Gwyliwch sut y cefnogodd y prosiect Ryan i adeiladu ei fusnes a gwasanaethu ei gymuned leol.

Grantiau a chyllid

Swm a ddyfarnwyd:

£2,769 drwy'r Grant Cychwyn Busnes.

Nodweddion y prosiect

Mae Ryan Evans Plumbing yn darparu amrywiaeth lawn o wasanaethau proffesiynol, gan gynnwys:

  • plymio
  • gwresogi
  • teils

 Mae'r busnes wedi'i seilio ar hyfforddiant o ansawdd uchel ac wedi'i gefnogi gan gyllid lleol sydd wedi galluogi twf cynaliadwy.

Gwneud gwahaniaeth

Fe wnaeth y Gronfa Ffyniant Cyffredin helpu Ryan i:

  • ailhyfforddi ac ennill cymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant
  • dechrau busnes lleol cynaliadwy
  • creu cyfleoedd gwaith newydd yn ei gymuned
  • buddsoddi mewn offer a gefnogodd dwf cynnar

Mae ei stori’n dangos sut y gall y gefnogaeth gywir helpu pobl i ddychwelyd i’r gwaith a chryfhau ardaloedd lleol.

Cysylltwch â ni

Cyfarwyddiadau i SA9 2NQ
Ryan Evans Plumbing
Cysgod y Mynydd Heol yr Ysgol Ystalyfera Abertawe SA9 2NQ pref
07512 211208 07512 211208 voice +447512211208

Rhannu eich Adborth