Hwb y Gors
"Mae trawsnewid Hwb y Gors yn ganolfan gymunedol sero-carbon yn gamp ryfeddol. Mae’n arddangos ymrwymiad Awel Aman Tawe i gynaliadwyedd a datblygiad economaidd.
Rydym yn falch o gefnogi mentrau sy’n sbarduno arloesedd ac yn hyrwyddo dyfodol gwyrddach.
Mae Hwb y Gors yn sefyll fel enghraifft ddisglair o’r hyn y gallwn ei gyflawni pan fyddwn yn uno tuag at nod cyffredin"
Y Cynghorydd Jeremy Hurley
Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Grantiau a chyllid
Swm a ddyfarnwyd:
£360,000 o Gronfa Grantiau Cymoedd a Phentrefi.
Nodweddion y prosiect
Mae’r nodweddion yn cynnwys:
- technoleg gynaliadwy – paneli solar, gwresogi o’r ddaear, a gardd fwyd gymunedol
- mannau cymunedol – stiwdios cydweithio, cyfleusterau addysgol, a chaffi cymunedol
- mentrau gwyrdd – cynllun trafnidiaeth drydan cymunedol a chaffi atgyweirio
- cadwraeth treftadaeth – ailbwrpasu’r adeilad tra’n cadw ei hanes
Seilwaith gwyrdd
Bydd y lle gwyrdd yn canolbwyntio ar fioamrywiaeth ac iechyd meddwl. Bydd yn cynnwys:
- lloches beiciau gwesty pryfed
- cwt gardd gymunedol â tho gwyrdd
- pwll cynefin
- ardaloedd tyfu bwyd
- llwybrau a thirlunio
- cynefinoedd bywyd gwyllt
Bydd yn darparu lle ar gyfer gwirfoddoli, digwyddiadau, gweithgareddau a chyfleoedd cymunedol.
Digidol
Cefnogodd y cyllid hefyd brosiectau digidol i leihau’r bwlch digidol gan gynnwys:
- datblygu system archebu ar gyfer digwyddiadau ar wefan Hwb y Gors
- prosiect cynhwysiant i helpu pobl i gael mynediad at offer a sgiliau digidol
Oriel
Mae Ysgol Cwmgors wedi’i thrawsnewid yn Hwb y Gors, sydd bellach yn ganolfan gymunedol sero-carbon gyda thechnoleg gynaliadwy a mannau bywiog i bobl leol.