Meithrinfa Ddydd Croeso
Mae hen Eglwys Bedyddwyr Cymraeg Calfaria wedi cael bywyd newydd.
Mae perchnogion Meithrinfa Croeso, Sam a Megan Fender, wedi goruchwylio’r prosiect yn Cwmgrach.
Bydd y feithrinfa’n darparu gwasanaeth sydd ei angen yn fawr ar y gymuned leol. Bydd yn:
- darparu gwasanaeth gofal plant dwyieithog
- cynnig mwy o lefydd gofal plant
- creu swyddi newydd
Mae Megan hefyd yn gobeithio defnyddio’r adeilad fel lle cymunedol i gynnal gweithgareddau eraill, gan gynnwys:
- grwpiau rhiant a baban
- ioga i fabanod
Grantiau a chyllid
Swm a ddyfarnwyd:
£275,000 o Gronfa Grantiau Cymoedd a Phentrefi.
Nodweddion y prosiect
Allanol
Er mwyn cadw golwg allanol yr adeilad yn gyfan, bydd y perchnogion yn cadw’r:
- ffrynt gwreiddiol
- gwaith carreg
- arwyddion
Nid yw’r adeilad wedi’i restru, ond mae’n cael ei gydnabod fel adeilad o bwysigrwydd lleol.
Mewnol
Mae’r gwaith mewnol yn cynnwys gosod o newydd:
- oleuadau ac offer gwresogi ynni-effeithlon
- trydanwaith
- plymio
- inswleiddio
- waliau mewnol (stud walls)
- cegin a chawod/toiled
Lle gwyrdd
Gwnaed gwelliannau i’r ardd gefn, gan ei thrawsnewid gyda:
- ardal chwarae awyr agored
- plannu gwyrdd
- blychau adar
Oriel
Mae'r gwaith adnewyddu yn creu lle diogel a chynnes i blant a theuluoedd. Mae hefyd yn gwella gofal plant lleol a chefnogaeth gymunedol.
Cysylltwch â ni
Stryd Fawr Cwmgwrach Castell-nedd SA11 5TA pref