Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Plas Cilybebyll

Mae Plas Cilybebyll ar ei ffordd i ddod yn Lleoliad Digwyddiadau Net Sero cyntaf Castell-nedd Port Talbot.

Mae’r lleoliad yn cael ei reoli gan deulu lleol, sydd wedi gwireddu breuddwyd oes i harneisio pŵer yr afon unwaith eto.

Mae’r cynllun micro hydro yn ymateb i’r argyfwng ynni presennol. Mae’n gam cadarnhaol tuag at fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Grantiau a chyllid

Swm a ddyfarnwyd:

£117,134 o Gronfa Grantiau Cymoedd a Phentrefi

Nodweddion y prosiect

Mae’r prosiect wedi darparu gorsaf hydroelectrig 11kW ar isafon Clydach.

Mae’n cynnwys:

  • mewnbwn
  • piblinell wedi’i gladdu
  • adeilad pwerdy pwrpasol bach

Cafodd y prosiect ei gyflawni gan gadwyn gyflenwi leol i gefnogi’r economi gylchol yn Ne Cymru.

Tyrbin Hydrolite Turgo

Mae’r tyrbin wedi’i gyplysu â generadur sy’n trosi egni mecanyddol yn drydan.

Wedi’i weithgynhyrchu yng Nghwm Tawe, bydd yn darparu ar gyfer y galw cynyddol am ynni sy’n deillio o:

  • gwefru cerbydau trydan
  • dyfeisiau cludadwy
  • cynnal digwyddiadau estynedig

Bydd y trydan a gynhyrchir yn cael ei ddefnyddio ar y safle ac yn cefnogi gofynion gweithredol cynyddol y lleoliad mewn ffordd gynaliadwy.

System rheoli drydanol

Mae’r system reoli yn agor ac yn cau’r tyrbin i gyd-fynd â llif y dŵr.

Wedi’i chynllunio gan arbenigwyr ynni adnewyddadwy Elements Energy, bydd yn:

  • cynhyrchu cyfartaledd blynyddol o 33MWh gyda allbynnau brig o 11.3kW
  • lleihau allyriadau tua 10 tunnell o CO₂ bob blwyddyn

Cafodd y gwaith adeiladu a pheirianneg sifil ei wneud gan FLG Services yn Rhydaman.

Cyfleusterau

Mae llwybr newydd sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn yn cysylltu’r llety â’r tŷ tyrbin.

Mae’n darparu atyniad newydd i dwristiaid ac ymweliadau addysgol i ysgolion lleol.

Mae hefyd wedi’i amgylchynu gan  Fythynnod Gwyliau Cwm Tawe, sydd wedi ennill gwobrau pum seren.

Oriel

Plas Cilybebyll yw lleoliad digwyddiadau Sero Net cyntaf Castell-nedd Port Talbot.

Cysylltwch â ni

Cyfarwyddiadau i SA8 3JQ
Plas Cilybebyll
Pontardawe Rhos Abertawe SA8 3JQ pref
(01792) 864611 (01792) 864611 voice +441792864611
07968 194348 07968 194348 voice +447968194348

Rhannu eich Adborth