Red Hill Coffee
Agorodd Red Hill Coffee ym Mryncoch ei drysau am y tro cyntaf yn 2024.
Dywedodd y Cyfarwyddwr, Ben Dobson:
“Mae wedi bod yn amser hir yn dod, ond allwn ni ddim bod yn fwy cyffrous i groesawu’r gymuned drwy ein drysau.
O’r cychwyn cyntaf, ein nod oedd creu diwylliant coffi croesawgar, ac rydym yn credu ein bod wedi cyflawni hynny gyda Red Hill Coffee.”
Grantiau a chyllid
Swm a ddyfarnwyd:
£37,800 o Gronfa Grantiau Cymoedd a Phentrefi.
Cyfleusterau
Mae Red Hill Coffee yn croesawu pob aelod o’r gymuned gyda:
- tân coed clyd
- rhyngrwyd ffibr llawn
- digonedd o le eistedd yn yr awyr agored
- awyrgylch cyfeillgar i gŵn
Bwydlen
Gyda’r weledigaeth o greu siop goffi sy’n gweithredu fel canolfan gymunedol, mae Red Hill Coffee yn gweini:
- coffis arbenigol
- byrbrydau ysgafn
- pasteiod
- Hufen Iâ Joe’s
- diodydd oer
Oriel
Mae Red Hill Coffee ym Mryncoch wedi creu canolfan gymunedol groesawgar, gan gyfuno diwylliant coffi crefftus â mannau clyd a chyfleusterau modern.